Â鶹ԼÅÄ

Cyfyngiadau coronafeirws i bara 'am fisoedd eto'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dr Meirion Evans: "Mae'r feirws yma i aros"

Mae un o brif ymgynghorwyr meddygol Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y gallai Covid-19 fod "yma i aros" ac y gallai'r gwaharddiad ar gynnal digwyddiadau barhau am fisoedd eto.

Dywedodd Dr Meirion Evans, sy'n ymgynghorydd proffesiynol i'r prif swyddog meddygol, mai brechlyn fyddai'r unig opsiwn yn y tymor hir i drechu'r haint.

Ychwanegodd y gallai gymryd "sbel go hir" i fywyd ddychwelyd i sut yr oedd hi cyn y pandemig coronafeirws, gyda phethau'n gorfod ailagor yn araf.

Mae'r wlad yn parhau dan gyfyngiadau ar hyn o bryd, gyda mesurau i atal pobl rhag ymgynnull a theithio os nad oes wir angen, a digwyddiadau torfol wedi'u gohirio neu ganslo.

'Ddim am fynd yn gyfan gwbl'

Mewn cyfweliad â Newyddion 9 dywedodd Dr Evans nad oedd wedi "gweld unrhyw beth tebyg i'r hyn 'dan ni'n gweld ar hyn o bryd".

Ychwanegodd bod angen i'r strategaeth i daclo'r pandemig barhau i ganolbwyntio ar gynnal mwy o brofion, a sicrhau fod gweithwyr rheng flaen yn cael eu diogelu rhag yr haint.

"Dwi 'di bod yn pwysleisio'r pwysigrwydd bod gan bawb offer diogelwch personol sydd angen arnyn nhw, a sicrhau bod rheiny'n cael mas i'r gwasanaeth iechyd a chartrefi gofal," meddai.

Ar hyn o bryd does dim triniaeth benodol i wella rhywun o Covid-19 - mae'n rhaid gadael i'r corff ymladd yn erbyn y feirws ei hunan.

Mae modd profi ar hyn o bryd i weld oes gan rywun coronafeirws, a'r gobaith yw y bydd prawf hefyd ar gael yn yr wythnosau nesaf i weld a ydy rhywun wedi cael yr haint.

Ond yn yr hir dymor, meddai Dr Evans, datblygu brechlyn i atal pobl rhag gallu dal yr haint "fydd yr unig opsiwn".

"Dwi'n meddwl bod y feirws yma i aros," meddai. "Wnawn ni ddim cael gwared ohono fe'n gyfan gwbl.

"Mae e'n debyg o fod fel straen newydd o'r ffliw, fel ffliw moch er enghraifft, sydd yn achosi lot fawr o broblemau yn y flwyddyn gyntaf mae'n datblygu, ac wedyn yn cadw 'mlaen i effeithio rhai pobl bob gaeaf ar ôl hynny.

"Bydd y coronafeirws yma i aros, nid jyst am eleni, ond am flwyddyn nesaf, ac ar ôl hynny."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan brawf yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn un o'r llefydd sy'n profi gweithwyr allweddol

Rhybuddiodd Dr Evans yn erbyn llacio rhai o'r mesurau coronafeirws yn rhy gynnar, rhag i'r feirws ddechrau ymledu unwaith eto.

Ac fe ddywedodd ei bod hi'n "bosibl" na fydd digwyddiadau mawr fel gwyliau ac eisteddfodau yn cael eu cynnal am o leiaf blwyddyn arall.

"Mae'n rhaid i ni fynd ymlaen un cam ar ôl y llall, 'dyn ni ddim yn mynd i allu mynd yn ôl i fywyd hollol normal yn syth, mi gymerith hi sbel go hir," meddai.

"Dwi'n meddwl bod hi'n annhebyg y gwelwn ni bethau fel mass gatherings, ble mae lot o bobl yn dod at ei gilydd, yn gallu cymryd lle am yn hir, achos dyna'r ffordd hawsaf i'r feirws yma gael ei drosglwyddo.

"Mesurau eraill, gadael pobl 'nôl i'r gwaith, plant 'nôl i'r ysgol, dwi'n credu fe all hynny ddigwydd lot fawr ynghynt.

"Ond bydd dal rhaid cadw golwg agos ar beth yn union sydd yn digwydd i'r feirws a chadw fe dan archwiliad."