Â鶹ԼÅÄ

Cynlluniau i sefydlu clwb pêl-droed newydd yn Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm Belle VueFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu Clwb Pêl-droed newydd yn Y Rhyl.

Y Rhyl oedd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn 2004 a 2009, gan ennill Cwpan Cymru bedair gwaith yn eu hanes.

Ond fe gyhoeddodd cyfarwyddwyr y clwb ar 21 Ebrill eu bod wedi dechrau'r broses o ddod â'r clwb presennol i ben yn sgil problemau ariannol.

Dywedodd y clwb mewn datganiad bod y cyfarwyddwyr wedi cymryd y "penderfyniad anodd" ar ôl ystyried goblygiadau ariannol gwahardd pêl-droed o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws.

Ychwanegodd y datganiad bod perchennog maes y Belle Vue wedi bod yn anfodlon ystyried prydles hir dymor neu i werthu ar dermau'r farchnad.

Roedd y clwb, sefydlwyd yn wreiddiol ym 1879, wedi datgan yn gynharach ym mis Ebrill bod angen £175,000 arnyn nhw er mwyn parhau.

Clwb 'ar gyfer bobl leol'

Ond ar ôl methu â sicrhau buddsoddiad bydd clwb newydd yn cael eu sefydlu dan arweiniad rheolwr gyfarwyddwr yr hen glwb, Adam Roche, gydag aelod arall o'r hen fwrdd, Tom Jamieson, yn gadeirydd dros dro.

Fe fydde nhw'n cydweithio gyda Chymdeithas Cefnogwyr Y Rhyl, a sefydlwyd yn ddiweddar.

Dywedodd y grŵp, sydd yn gobeithio sefydlu clwb newydd erbyn tymor 2020-21, y bydd "ar gyfer pobl leol i sicrhau bod traddodiad ac etifeddiaeth bel-droed Y Rhyl yn parhau".

Dywed Cymdeithas y Cefnogwyr eu bod yn gobeithio penodi tîm rheoli a sicrhau maes i gynnal gemau cartref.

Mae'r fenter wedi cael sêl bendith yr Aelod Seneddol lleol Dr James Davies.