Â鶹ԼÅÄ

Clwb Pêl-droed Y Rhyl yn 'paratoi am y gwaethaf'

  • Cyhoeddwyd
Belle VueFfynhonnell y llun, Matthew Ashton
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Y Rhyl yn gwylio'u tîm yn erbyn Partizan Belgrade yn rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar y Belle Vue yn 2009

Gyda phryderon cynyddol am ddyfodol Clwb Pêl-droed Y Rhyl, mae trysorydd y clwb yn dweud fod o'n "gobeithio am y gorau ond yn paratoi am y gwaethaf".

Yn ôl John Hughes-Jones mae sefyllfa ariannol y clwb yn "ddifrifol iawn".

Mae angen dod o hyd i tua £175,000 cyn diwedd y penwythnos, meddai, neu mi fydd y clwb yn mynd i'r wal.

Y Rhyl oedd pencampwyr Uwch-gynghrair Cymru yn 2004 a 2009, ac enillwyr Cwpan Cymru yn 2006.

Maen nhw hefyd wedi chwarae mewn cystadlaethau Ewropeaidd nifer o weithiau.

Ond bellach maen nhw'n chwarae yn ail haen pêl-droed Cymru, ac fel pob clwb arall, dydyn nhw ddim wedi chwarae ers dros fis oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

Yn ôl Mr Hughes-Jones, mae hynny wedi cael effaith ar eu gallu i gynhyrchu incwm.

"Mae'n dorcalonnus," meddai. "Dwi wedi bod yn dilyn y clwb ers 30 mlynedd. Mae'r clwb yn rhan o hanes Rhyl ac wedi codi proffil y dref ers amser maith."

Os bydd y clwb yn dod i ben, un posibilrwydd fyddai dechrau clwb newydd.

Ond mae'n debyg y byddai hwnnw'n gorfod dechrau yn agos i waelod y pyramid pêl-droed yng Nghymru.

Penderfyniad terfynol

Yn ôl Ffred Ffransis, sy'n cefnogi'r Rhyl ers yn blentyn: "Fyddai'r Rhyl ddim yr un fath heb glwb pêl-droed, a byddai ail-gychwyn mewn parc ddim yr un fath o gwbl."

Yn sgil yr argyfwng coronafeirws, mae 'na bryderon y gallai clybiau pêl-droed eraill yng Nghymru wynebu problemau tebyg.

Gwrthododd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wneud sylw ynglŷn â'r mater, ond maen nhw wedi annog clybiau i wneud ceisiadau am grantiau sydd ar gael i fudiadau chwaraeon sy'n wynebu trafferthion.

Mae disgwyl i fwrdd cyfarwyddwyr CPD Y Rhyl wneud penderfyniad terfynol ynglŷn â dyfodol y clwb ddydd Llun.