41 yn rhagor wedi marw o Covid-19 yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae 41 yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael cadarnhad eu bod wedi'u heintio a Covid-19, yn ôl ffigyrau swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r ffigwr diweddaraf yn golygu bod 575 o bobl wedi marw tra'n dioddef o'r feirws yma erbyn hyn.

334 o achosion newydd sydd wedi eu cyhoeddi gan ddod â'r cyfanswm i 7,270. Ond mewn gwirionedd mae'n debyg bod y ffigwr yn uwch gan nad yw pawb sydd â symptomau o'r feirws yn cael eu profi.

15,464 o farwolaethau sydd wedi bod ar draws Prydain hyd yn hyn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dechrau cyhoeddi ym mhle mae'r marwolaethau wedi digwydd yng Nghymru.

Mae'r nifer uchaf o farwolaethau wedi bod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 195 o bobl sydd wedi marw o'r haint yno.

Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod nifer y marwolaethau ar draws y wlad "yn uwch."

Y rheswm maen nhw'n ei roi am y gwahaniaeth yw'r ffaith bod y data ond yn cynnwys cleifion sydd wedi marw yn yr ysbyty a rhai cartrefi gofal lle mae'r profion wedi cael eu cynnal am y feirws.

Beth am weddill y byrddau iechyd?

  • 137 o bobl sydd wedi marw gyda'r haint o ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
  • 136 o ardal Cwm Taf Morgannwg
  • 93 o ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

Am fod y ffigyrau marwolaethau ym Mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Phowys yn fach dyw'r rhain ddim wedi cael eu cyhoeddi er mwyn gwarchod preifatrwydd y meirw.

Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud nad yw hyn yn effeithio ar y niferoedd sydd wedi marw.