Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Ffigyrau gwahanol am nifer y marwolaethau

  • Cyhoeddwyd
Coronavirus testFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffigyrau swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod 82 yn fwy o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid-19 nag a adroddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru erbyn dechrau mis Ebrill.

Dangosai ffigyrau'r ONS fod 236 o farwolaethau yng Nghymru hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar ddydd Gwener, 3 Ebrill.

Ar ddydd Sadwrn, 4 Ebrill roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod nifer y marwolaethau yng Nghymru yn 154.

Mae ffigyrau ONS yn seiliedig ar dystysgrifau marwolaeth sy'n sôn am Covid-19, felly maen nhw'n cynnwys marwolaethau sy'n digwydd y tu allan i ysbytai, gan gynnwys marwolaethau mewn cartrefi gofal a chartrefi preifat.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod hefyd yn cynnwys marwolaethau a gofnodwyd mewn ysbytai ac yn y gymuned ond eu bod yn cydnabod y gallai eu ffigyrau fod yn wahanol i ystadegau swyddogol.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn edrych ar y ffordd y cafodd gwybodaeth ei chasglu ond dywedodd eu bod yn dosbarthu'r holl wybodaeth a anfonwyd atyn nhw.

"Mae'r ffigyrau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu rhyddhau bob dydd yn ymwneud ag unrhyw farwolaethau a adroddir i ni lle mae Covid-19 wedi'i gynnwys ar y dystysgrif marwolaeth, o unrhyw leoliad boed yn ysbyty, cartref gofal neu yn y gymuned ehangach," meddai.

Brynhawn Mawrth, fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 19 yn fwy o bobl wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm - yn ôl eu ffigyrau nhw - i 403.

Fe gafodd 238 o achosion newydd eu cadarnhau gan fynd â'r cyfanswm i 5,848 yma.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cydnabod bod gwir nifer yr achosion yn llawer uwch.

Amrywiadau

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai'r ffigyrau am farwolaethau godi cyn diwedd yr wythnos oherwydd penwythnos y Pasg.

Dywedodd: "Rydym wedi sylwi lleihad yn nifer y marwolaethau sydd wedi eu hadrodd i ni dros benwythnos y Pasg o gymharu â'r niferoedd yn gynharach yn yr wythnos. Ni allwn fod yn sicr o'r rheswm am hyn.

"Mae'n bosib bod oedi cyn adrodd am farwolaethau dros y penwythnos, ac felly mae'n bosib y gwelwn ni ffigyrau uwch na'r disgwyl yn ddiweddarach yr wythnos hon wrth i'r nifer sy'n cael eu hadrodd ddal i fyny gyda'r oedi yna."