Â鶹ԼÅÄ

Gwyddonwyr yn ne Cymru'n datblygu prawf Covid-19 newydd

  • Cyhoeddwyd
samplau coronafeirwsFfynhonnell y llun, PA Media

Mae prawf cyflym ar gyfer Covid-19 wedi'i ddatblygu gan wyddonwyr ym Mhrifysgol De Cymru.

Gallai'r prawf newydd gael ei ddefnyddio mewn cartrefi gofal yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg o fewn yr wythnosau nesaf.

Bydd modd rhoi canlyniad o fewn 20-30 munud ar ôl cymryd y sampl gan ddefnyddio teclyn newydd sydd yn dadansoddi'r profion heb orfod eu dychwelyd i'r labordy.

Mae'r prawf newydd yn defnyddio cemegau gwahanol i'r prawf sydd eisoes wedi'i awdurdodi, sy'n caniatáu i'r brifysgol osgoi'r prinder byd-eang o'r cyflenwadau sydd eu hangen.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill ond wedi cydnabod erbyn hyn nad ydyn nhw wedi llwyddo.

Dim targedau

Mae data diweddar yn dangos bod llai na 1,000 o brofion y dydd wedi'u cynnal gan labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi dweud na fydd y llywodraeth yn gosod targed arall.

Ond maen nhw yn "hyderus" y gallan nhw gynyddu'r profion yn wythnosol a chyhoeddi nifer y profion fyddan nhw'n eu cynnal bob wythnos.

Er gwaethaf hyn, mae rheolwyr byrddau iechyd yn chwilio am ffyrdd ychwanegol o brofi eu staff ac mae'r brifysgol wedi gweithio gyda bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddatblygu'r prawf newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae gweithwyr allweddol yn gallu mynd i rai canolfanau i gael prawf

Dywedodd Cerith Jones, darlithydd bioleg ym Mhrifysgol De Cymru: "Y peth da am y prawf newydd yw ei fod yn debyg ond yn wahanol i'r prawf sy'n cael ei ddefnyddio yn yr ysbyty.

"Ry ni'n defnyddio cemegion ac offer gwahanol, felly fyddwn ni ddim ynghlwm a'r un problemau o gael y cyflenwad o'r pethau sydd ei angen i wneud y prawf."

I gynnal y prawf mae'n rhaid cymryd sampl o'r trwyn.

Mae'r sampl yn cael ei selio ar unwaith i leihau croes-halogi neu ymlediad pellach o'r feirws.

Yna mae peiriant yn archwilio'r sampl am olion DNA y feirws.

Yn ystod gwerthusiad y prawf newydd, gofynnwyd i rai aelodau staff y GIG a oedd yn dangos symptomau coronafeirws i ddarparu dau sampl - un ar gyfer prawf achrededig Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'r llall ar gyfer y prawf newydd gan Brifysgol De Cymru.

Mae'r broses wedi helpu i gadarnhau cywirdeb prawf y brifysgol, gyda'r gwyddonwyr yn dweud bod y canlyniadau'n awgrymu "cydberthynas gref" rhwng y ddau brawf.

Defnyddio mewn cartrefi gofal

Mae tîm y brifysgol hefyd wedi datblygu dyfais ar gyfer dadansoddi samplau, gan alluogi profion mewn llefydd fel cartrefi gofal a wardiau ysbytai.

Ychwanegodd Cerith Jones: "Dros yr wythnos diwethaf rydyn ni wedi gwneud yn siŵr bod y prawf moleciwlaidd yn gweithio, ac ry'n ni'n gwybod nawr trwy gymharu gyda'r prawf swyddogol bod hwnna yn gweithio ac yn barod i fynd.

"Beth rydyn ni angen gwneud dros yr wythnos nesaf yw gwneud yn siŵr bod y teclyn newydd - sy'n golygu bod y prawf yma yn gallu digwydd tu allan i'r labordy - bod hwnna yn barod, a bod ni yn gwneud yn siŵr bod hwnna yn gweithio yn effeithlon."

Ymateb yn gyflym

Mae'r ddyfais a'r prawf bron â gorffen cael ei werthuso gan y bwrdd iechyd. Mae'n bosib y byddan nhw yn cael eu defnyddio yn fuan o fewn rhai cartrefi gofal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Dywedodd rheolwr arloesi'r bwrdd iechyd, Dr Tom Powell, bod y prawf newydd yn rhan o'r ymateb brys i'r pandemig.

"Mae hon yn sefyllfa wirioneddol unigryw ac mae'r broses gyfan wedi digwydd yn sydyn iawn. Mae'r canlyniadau'n edrych yn rhagorol.

"Mae angen i ni wneud rhywfaint o waith gwerthuso dros yr wythnosau nesaf, ac os cawn ni'r arian fe fyddwn ni yn gallu bwrw ymlaen gyda hyn."

Dywedodd Dr Powell y byddai'r prawf y gellir ei symud o le i le yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â dulliau profi eraill.

"Mae yna bwysau mawr ar hyn o bryd, ac mae llawer o'n cydweithwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r prosesau profi sydd eu hangen arnom.

"Mae'r prawf yma, fydd yn cael ei gynnig mewn mannau lle rhoddir gofal, yn rhywbeth ychwanegol at hynny. "