Ateb y Galw: Y cyflwynydd Gareth Jones

Ffynhonnell y llun, Gareth Jones

Y cyflwynydd Gareth 'Gaz Top' Jones sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Ruth Lloyd yr wythnos diwethaf.

Yn adnabyddus i nifer fel un o gyflwynwyr y gyfres boblogaidd How 2, mae Gareth wedi bod yn cyflwyno rhaglenni teledu ers yr 80au. Mae'n cyflwyno podlediad wythnosol am geir a moduro ers 2005, o'r enw Gareth Jones on Speed.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod yn bump oed, ddechrau'r 60au, mewn ysbyty yn Llanelwy, yn paratoi i gael triniaeth i gael fy adenoids allan. Dwi'n cofio mynd i mewn i'r theatr a gweld lluniau o anifeiliaid ar y nenfwd uwch fy mhen i, jest cyn i mi gael fy rhoi i gysgu.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Marina yn Stingray... pyped oedd hi...! Ar ôl hi, Elizabeth Sladen, oedd yn chwarae Sarah Jane yn Doctor Who yn y 70au. A Debbie Harry o Blondie yn yr 80au, fel pawb arall yn y cyfnod hynny!

Ffynhonnell y llun, Chris Ware

Disgrifiad o'r llun, Crewyr y gyfres Stingray, Gerry a Sylvia Anderson gyda'u pypedau. Marina sydd ym mreichiau Gerry... sori Gareth

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Tua chwarter canrif yn ôl, es i i ddosbarth yoga yn Camden. Ac ar ôl ymadael â'r dosbarth, nes i sylweddoli mod i wedi gadael potel fach o Purdey's ar y llawr ble ro'n i'n ymarfer, yn lle ei roi o yn y bin ailgylchu! Mor siomedig yn fy hun!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Tua pythefnos yn ôl wrth wylio rhaglen deledu Star Trek: Picard. Roedd 'na foment pan 'nath Jean-Luc Picard ddweud ffarwel wrth ei gyfaill, Data, am y tro ola', a diffodd y rhaglen gyfrifiadur oedd yn rheoli personoliaeth Data i gyd. Trist ofnadwy.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rhechu. Dwi'n andros o rechwr. Mae'r bai am hyn dwi'n credu achos mod i wedi bod yn llysieuwr ers dros 30 mlynedd, felly dwi'n rhechu lot... sori!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae fy hoff le yn y byd yng Nghymru. Hanner ffordd i fyny mynydd Moel Famau yn Sir y Fflint, lle o'n i'n arfer hedfan awyrennau model gyda fy nhad pan o'n i'n ifanc.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ym mis Tachwedd 2016, pan 'nath cyngor Treffynnon - y dre' nes i dyfu fyny ynddi - ofyn i mi droi'r goleuadau 'Dolig 'mlaen yn y dref. Hynod o beth. Nes i gyrraedd y dre' yn cerdded o flaen Band Gorymdeithio Cambria - nhw tu ôl i mi yn chwarae - ac o'n i'n cario baner Sir y Fflint. O'n i'n andros o falch!

Ffynhonnell y llun, Wikipedia

Disgrifiad o'r llun, Roedd Gareth wrth ei fodd yn cael cario baner ei sir enedigol wrth droi goleuadau Nadolig ei dref enedigol ymlaen

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Nwydus, Cymraeg a gwirion!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff ffilm yw For All Mankind a gafodd ei rhyddhau yn yr 80au. Mae'n dweud stori prosiect Apollo, pan oedd yr UDA yn ceisio glanio ar y lleuad. Y rheswm pam fod hyn mor arbennig yw'r ffaith mai nid jest stori ydi hi, 'nath hyn ddigwydd go iawn.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Fy nhad. Oherwydd 'nes i golli fy nhad pan o'n i'n weddol ifanc, a chafodd o erioed y siawns i 'nabod fi fel oedolyn na byth siawns i fy ngweld i ar y teledu. Felly byddai eistedd lawr a siarad efo fo, a mwynhau rhywbeth i'w yfed yn arbennig iawn.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff gân?

Fy hoff gân erioed yw Coz I Luv You gan Slade - oherwydd hon oedd y gân 'naeth agor y byd rock'n'roll i mi yn gyfangwbl.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

I ddechrau, rhywbeth o'r Eidal - Insalata Tricolore - tomato, mozzarella ac afocado. Wedyn Matar Paneer, o India. Ac i orffen, pwdin reis fy mam!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Cyn o'n i ar y teledu, fy ngwaith yng ngogledd Cymru oedd cynllunio ffyrdd. 'Nes i gynllunio ffordd osgoi Ffynnongroyw a darnau mawr o'r A55 ger Treffynnon!

Ffynhonnell y llun, How 2

Disgrifiad o'r llun, Bu Gareth yn cyflwyno How 2 - y gyfres addysgiadol i blant - o 1990 tan 2006

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Beth fyddwn i'n ei wneud? Wel marw wrth gwrs!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy hoff berson i fod fyddai fy nghath, Finn. Mae o'n chwarae a bwyta a chysgu drwy'r dydd - bywyd moethus iawn!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Bethan Rhiannon