Â鶹ԼÅÄ

Rhybudd gan yr heddlu wrth i densiynau tai haf godi

  • Cyhoeddwyd
Llanberis, GwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar drothwy'r Pasg, mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar bobl i beidio cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl bod 'na bobl wedi symud i dai haf.

Gyda'r cyfyngiadau cymdeithasu yn parhau, mae 'na bryderon ym Mhen LlÅ·n bod tensiynau ar gynnydd, gyda honiadau bod perchnogion tai haf yn symud i'w tai yn ystod oriau'r nos i osgoi'r heddlu.

Mae'r cynghorydd Gareth Williams yn cynrychioli Botwnnog ar Gyngor Gwynedd, a dywedodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw bod 'na sôn bod pobl yn symud i ryw 10 i 15 tÅ· haf y noson yn wardiau Botwnnog a Tudweiliog.

"Mae'n anodd coelio a dweud y gwir fod nhw'n bod mor hunanol, mor anghyfrifol," meddai.

"Dydi'r aflwydd Covid-19 ddim yn mynd i fynd i ffwrdd oni bai bod ni'n gwneud be' 'dan ni fod i wneud."

Disgrifiad,

Tai haf: "Mae 'na wylltineb a rhwystredigaeth"

Dywedodd hefyd ei fod yn "pryderu'n fawr" y gallai pobl gymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain wrth i densiynau godi ynghylch y mater.

Mae'n galw ar y llywodraeth i roi pwerau i'r heddlu i allu gorfodi pobl i adael eu tai haf.

Rhybudd yr heddlu

Dywedodd Carl Foulkes, prif gwnstabl Heddlu'r Gogledd bod y llu yn derbyn nifer o alwadau gan bobl oedd yn poeni am bobl yn aros mewn tai haf.

Ychwanegodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw: "'Dan ni'n ymchwilio i hyn a'r peth gorau i bobl wneud ydy cysylltu efo ni."

Rhai tai haf 'yn cael eu defnyddio gan weithwyr rheng flaen'

Mae rhai tai haf ac ail gartrefi yn cael eu defnyddio gan weithwyr rheng flaen, meddai, o'r gwasanaeth iechyd neu sectorau eraill.

"Mae'n bwysig bod pobl ddim yn trio cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain," ychwanegodd.

Aeth yn ei flaen i ddweud y bydd ganddyn nhw swyddogion ar batrôl y penwythnos yma i sicrhau y bydd y rheolau'n cael eu parchu ac nid dim ond Heddlu'r Gogledd sy'n cynnal archwiliadau ar y ffyrdd. Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd yn cadw golwg o bwy sy'n mynd a dod a pham.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Aled Scourfield

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Aled Scourfield

Airbnb i gyfyngu archebion llety i weithwyr allweddol yn unig

Yn y cyfamser, mae cwmni Airbnb ym Mhrydain wedi cyhoeddi mai dim ond gweithwyr allweddol fydd yn cael archebu llety drwy eu gwefan tan 18 Ebrill o leiaf.

Yn ôl y cwmni mae modd archebu drwy gynllun yn unol â chanllawiau'r llywodraeth. Bydd y cyfyngiadau archebu yn cael eu hadolygu am gyfnod rheolaidd wedi hynny.

Mae Airbnb yn dweud bod miloedd o ddarparwyr llety ar eu gwefan wedi dewis cynnig llety drwy'r cynllun 'Frontline Stays.'

Mae'n cynnig llety am ddim i staff y GIG a llety am dal is nag arfer i weithwyr allweddol eraill sydd ddim yn gorfod glynu at reolau newydd cyfyngiadau cymdeithasol y llywodraeth.