Gwleidyddion Cymru'n dymuno gwellhad buan i Boris Johnson

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae gwleidyddion Cymru wedi dymuno gwellhad buan i'r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi iddo gael ei symud i uned gofal dwys mewn ysbyty yn Llundain.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fore Mercher ei fod yn "meddwl am Boris Johnson a'i deulu" a bod y newyddion am ddirywiad ei iechyd yn "sioc".

Mae Mr Johnson wedi bod yn cael gofal mewn uned gofal dwys yn Ysbyty St Thomas ers i'w symptomau coronafeirws waethygu nos Lun.

Fe ofynnodd Mr Johnson i'r ysgrifennydd tramor Dominic Raab i ddirprwyo "lle bo angen".

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus y bydd y llywodraeth yn parhau i weithredu er bod y Prif Weinidog yn yr ysbyty

"Dwi'n siŵr bod tîm o bobl gyda'r Prif Weinidog," meddai ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru.

"Rwy'n siŵr y byddan nhw'n gallu dod gyda'i gilydd dan Dominic Raab, ac yn y cyfamser mae'r Prif Weinidog yn dal i siarad â phobl, glywes i.

"Mae lot o waith i'w wneud a gwneud e yn y ffordd yna yw'r ffordd orau."

'Egni rhyfeddaf' yn Boris Johnson

Fel un fu'n cydweithio'n agos â Boris Johnson fel ymgynghorydd tra'i fod yn Faer Llundain, dywedodd Guto Harri ei bod hi'n ddifrifol fod y Prif Weinidog wedi "ildio" i'r salwch.

"Sai'n credu ei fod e wedi bod yn sâl un diwrnod yn y pedair blynedd galed i fi weithio gyda fe. Mae egni rhyfedda yn y boi," meddai.

Yn ôl Mr Harri, doedd dim syndod nad oedd y Prif Weinidog wedi ildio'r awenau ynghynt.

"Nid ar chwarae bach, o ystyried yr argyfwng ry'n ni ynddi, mae'r person sydd ar ben y gadwyn yn gadael fynd o bethau fel yna.

"O beth rwy'n ddeall, roedd e wedi pasio gymaint ag o'dd e'n gallu i bobl eraill yn barod."

'Un sydd ddim yn ildio'

Wrth drydar dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, fod "Boris fel ry'n ni gyd yn gwybod yn un sydd ddim yn ildio a'i fod e'n un sy'n ennill [brwydrau].

"Mi fydd yn ymladd y feirws fel mae e'n ymladd unrhyw her arall mewn bywyd.

Dywedodd ei fod yn anfon ei gofion a'i fod yn meddwl, yn arbennig, "am Carrie sy'n wynebu amser pryderus".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Paul Davies, ei fod e hefyd yn meddwl am Brif Weinidog San Steffan a'i deulu.

Ychwanegodd llefarydd Downing Street bod Mr Johnson wedi cael ei symud wedi cyngor gan ei dîm meddygol.

Nodwyd hefyd bod Mr Johnson wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, i ddirprwyo "pan fo hynny'n angenrheidiol".

Dywedodd cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr Arglwydd Byron Davies, ei fod yn "meddwl a gweddïo" am Mr Johnson a'i bartner Carrie Symonds.

Ychwanegodd ei fod yn dymuno gwellhad buan iddo.

Diolch i'r GIG

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd yr arweinydd Adam Price: "Rwy'n meddwl ac yn gweddïo gyda'r Prif Weinidog a'i deulu yn ystod yr amser pryderus hwn.

"Diolch am staff y GIG sy'n rhoi iddo fe ac eraill sy'n ymladd y feirws y gofal gorau posib."

A'r un oedd neges Neil Hamilton ar ran UKIP.

Fe ddymunodd wellhad buan i Mr Johnson ac fe ddiolchodd e hefyd i staff y gwasanaeth iechyd am eu gwaith clodwiw yn gofalu am y rhai sydd wedi cael eu taro gan y "salwch ofnadwy".

Ffynhonnell y llun, EPA

Bu Mr Johnson yn sefyll ar stepen ei ddrws yn cymeradwyo'r gwasanaeth iechyd nos Iau er ei fod yn dioddef o'r feirws.

"Bydde fe wedi teimlo i'r byw fod yn rhaid iddo gael ei weld i fod mas yna, yn arwain trwy esiampl," medd Mr Harri.

"Pan welais i fe o flaen rhif 10 yn curo'i ddwylo i weithwyr y gwasanaeth iechyd ddydd Iau, o'dd golwg ofnadwy arno fe.

"Ond i'n deall yn iawn pam fydde fe wedi bod mor benderfynol i fod yna ar y pryd. Mae 'da fe gyfansoddiad cryf.

"Fydd neb yn fwy crac a siomedig na fe ei fod ar ei gefn yn yr ysbyty yn hytrach nag wrth y llyw yn rhif 10."