Â鶹ԼÅÄ

Coronafeirws: Datgelu pecyn newydd o gymorth ariannol

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod effaith coronafeirws ar yr economi yn "syfrdanol"

Mae pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi cael ei ddatgelu.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mai nod y gronfa ydy galluogi i fusnesau "oroesi storm coronafeirws".

Bydd rhagor o gynlluniau yn cael eu cyhoeddi trwy gydol yr wythnos fel rhan o'r pecyn cymorth.

Daw'r arian o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru a pheth arian ychwanegol o Drysorlys Llywodraeth y DU.

62 wedi marw

Daw wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau bod 14 person arall â Covid-19 wedi marw yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm i 62.

Cafodd 210 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, gyda chyfanswm o 1,451 wedi cael prawf positif yng Nghymru hyd at ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y bydd busnesau'n ei chael yn anodd goroesi yn ystod cyfyngiadau Covid-19

Dywedodd Mr Drakeford fod effaith coronafeirws ar yr economi yn "syfrdanol".

Bydd £500m o'r arian yn cael ei roi tuag at gronfa argyfwng i fusnesau ac elusennau i'w helpu i oroesi'r argyfwng fel y gallan nhw barhau i gynnig swyddi a nwyddau yn y dyfodol.

O'r pecyn £1.1bn, mae tua 50% wedi dod gan y Trysorlys o ganlyniad i'r arian sydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer Lloegr.

Daw tua 25% o arian yr UE, sydd wedi cael ei "ailbwrpasu" fel arian argyfwng ar gyfer delio gyda coronafeirws, ac mae'r 25% arall yn arian sydd wedi cael ei dynnu oddi ar adrannau eraill Llywodraeth Cymru, fel ffyrdd a pherthnasau rhyngwladol.

Mae'r arian yma ar ben nawdd gwerth £1.4bn oedd eisoes wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Economi, Ken Skates.

Cyfyngiadau am barhau am hir

Dywedodd Mr Drakeford yn ei gynhadledd ddydd Llun bod ganddo "ddim amheuaeth" y bydd y gorchymyn i bobl aros yn eu cartrefi yn para'n hirach na thair wythnos, ond y bydd y mesurau yn cael eu llacio dros amser.

Roedd dirprwy-brif swyddog meddygol Lloegr wedi rhybuddio ddydd Sul ei bod yn disgwyl i'r mesurau presennol bara am hyd at chwe mis.

Ychwanegodd Mr Drakeford y bydd profion sy'n datgelu os ydy unigolyn wedi cael Covid-19 yn dod i Gymru yn yr wythnosau nesaf, ond nad ydyn nhw'n barod eto.

Bu hefyd yn rhoi clod i weithwyr iechyd a gofal, gan ychwanegu bod yr ymateb gan y rheiny sydd eisiau gwirfoddoli wedi bod yn "anhygoel".