Ansawdd aer wedi gwella dan y mesurau arbennig

Disgrifiad o'r llun, Gallai'r gostyngiad mewn llygredd aer mewn dinasoedd fel Caerdydd fod yn ffenest ar ddyfodol o gerbydau trydan
  • Awdur, Rhys Williams
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae lefelau llygredd dinasoedd mawr y DU gan gynnwys Caerdydd wedi gostwng ers i fesurau arbennig i fynd i'r afael â coronafeirws ddod i rym.

Yn ôl data'r Ganolfan Atmosfferig Genedlaethol mae lefelau nitrogen deuocsid a gronynnau llygredd llawer yn is na'r lefelau arferol am yr amser yma o'r flwyddyn.

Yn ôl y ganolfan gall lefelau llygredd aer barhau i wella yn yr wythnosau i ddod.

Cymharodd gwyddonwyr y lefel llygredd aer eleni gyda'r cyfartaledd o'r pum mlynedd ddiwethaf, gan edrych ar ddata 10 o ddinasoedd y DU: Birmingham, Belfast, Caerdydd, Leeds, Llundain, Manceinion, Newcastle ac Efrog.

'Llawer yn iachach'

Mae nitrogen deuocsid yn cael ei ryddhau o gerbydau a phrosesau diwydiannol eraill, ac mae'r gwenwyn yn gallu gwneud cyflyrau fel asthma neu froncitis yn waeth.

Yn ôl James Lee, Athro Cemeg Atmosfferig ym Mhrifysgol Efrog: "Mae'r awyr yn sicr llawer yn iachach.

"Mae'r rhain yn newidiadau mawr - mae lefelau llygredd ar hyn o bryd yn gyfystyr â gwyliau, fel Sul y Pasg."

Ffynhonnell y llun, Prof James Lee

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Athro James Lee (ail o'r dde) fod yr aer yn "llawer iachach"

Mae'r data yn dod o orsafoedd monitro mewn dinasoedd, i ffwrdd o'r prif ffyrdd.

"Dewision ni'r rhain achos dyna ble mae pobl yn byw," meddai'r Athro Lee.

"Mae hyn yn gyfle mawr i ni weld patrwm i'r dyfodol pan fydd gan bobl fwy o geir trydan."

'Newid ymddygiad yn yr hirdymor'

Mae defnydd ceir wedi gostwng yn sylweddol ers i Lywodraeth Cymru ofyn i bobl adael eu cartrefi am deithiau angenrheidiol yn unig, fel mynd i gael bwyd, moddion, neu weithio os nad oes modd gweithio o gartref.

Mae trefi a dinasoedd drwy Gymru gyfan wedi gweld cwymp mawr yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd.

Mae lluniau lloeren wedi dangos gwahaniaethau mawr mewn lefelau llygredd aer ar draws y byd.

Yn ôl yr Athro Lee, bydd y sefyllfa bresennol yn arwain at newidiadau mwy hirdymor hefyd.

"Rwy'n credu bydd ymddygiad pobl yn sicr yn newid," meddai.

"Rwy'n credu y bydd nifer yn fwy yn gweithio o gartref, dyw pobl ddim eisiau teithio i gyfarfodydd - rwy'n credu y bydd yn cael effaith."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn

Disgrifiad o'r llun, Bydd modd dilyn hynt Monty - gwalch y pysgod - ar lif fideo byw cyn hir

Gallai diffyg traffig ar ein hewlydd gael effaith arall hefyd.

Yn ôl arbenigwyr bywyd gwyllt rydym nawr yn gallu clywed sŵn adar ac anifeiliaid eraill gan fod lefelau llygredd sain wedi gostwng hefyd.

Dywedodd Janine Pannett o Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn: "Cymerwch ychydig mwy o amser i fwynhau beth sydd ar eich stepen drws, boed hynny yn agor y ffenest a gwrando ar yr adar am 10 munud neu os ydych chi'n ddigon lwcus i fod yn agos at wyrddni i fynd i weld beth sydd yna.

"Cymerwch amser i ganolbwyntio arnyn nhw.

"Mae cân adar yn hynod o bwysig.

"Mae cyfnod y flwyddyn yn bwysig iawn i wrando am fudwyr sy'n dychwelyd, nid dim ond adar mawr fel gweilch, ond adar sy'n llai o faint, ac felly mae'n ddyrchafol i glywed sŵn y gwanwyn yn dod."

'Cyfnod cyffrous'

Mae'r tîm newydd sefydlu camerâu sy'n monitro nythod y gweilch ar lannau afon.

Maen nhw'n disgwyl i'r adar ddychwelyd i'r nyth yn y dyddiau nesaf ar ôl treulio'r gaeaf yn Affrica.

"Mae hyn wastad yn gyfnod cyffrous.

"Does dim syniad 'da ni beth sydd wedi digwydd i Monty a Telor ers iddyn nhw ein gadael ni ym misoedd Awst a Medi'r llynedd," meddai Ms Pannett.

"Rwy'n gobeithio eu bod nhw ar eu ffordd yn ôl i ni yn awr."

Yn ôl Ms Pannett mae gan y fideo byw o'r nyth ddilyniad mawr yng Nghymru ac ar draws y byd.

Eu gobaith eleni yw y bydd bywyd y gweilch eleni yn cael ei wylio gan fwy o bobl fyth, gan gynnwys y rheiny sy'n hunan ynysu.