'Mwy nag adeilad': Her newydd yr hen eglwysi

Ffynhonnell y llun, stevanovicigor

Does dim dwywaith fod bywyd wedi newid dros yr wythnosau diwethaf. Wrth i argyfwng coronafeirws ddal gafael ar y wlad, nid yw'r rhan fwyaf ohonom yn gallu mynychu'r gwaith na rhai o'r sefydliadau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol.

Gyda chynulleidfaoedd sy'n tueddu i fod yn hŷn, mae gan gapeli ac eglwysi Cymru her arbennig wrth geisio cadw mewn cysylltiad â'u haelodau.

"Mae'n gyfle i ddangos bod ein heglwysi yn fwy nag adeilad," meddai Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr. "Yn wir, mae popeth ry'n wedi bod yn ei ddweud ar hyd yr oesoedd wedi cael ei sylweddoli mewn rhai diwrnodau."

Mae Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Bedyddwyr, yn cytuno: "Dyma gyfnod sydd hefyd wedi'n gorfodi i gyflwyno ein neges mewn ffordd wahanol - mae nifer ohonom wedi gorfod dysgu yn gloi iawn sut i fanteisio ar y cyfryngau cymdeithasol i gyflwyno neges yr efengyl."

Disgrifiad o'r llun, Rhys Llwyd, gweinidog Capel Caersalem, Caernarfon - un o'r rhai sy'n cynnal gwasanaeth ar y we

Denu mwy o gynulleidfa

Felly mae oedfaon a gwasanaethau nifer o addoldai wedi gorfod symud o'r adeiladau i'r we - rhai wedi eu recordio o flaen llaw ac eraill wedi penderfynu darlledu yn fyw, rhai yn gyflwyniad syml ond eraill wedi cynnwys cân a llun.

"Ni gyd wedi gorfod dysgu lot mewn amser byr," meddai Rhys Llwyd, gweinidog Capel Caersalem, Caernarfon.

"Yr hyn wnes i oedd darlledu gwasanaeth as live ar Facebook a - be' oedd yn dda ar Facebook o'dd bod cyfle i bobl ymateb ar chat.

"Fel arfer mae ryw 60 yn dod i'r capel ond mi 'na'th dwbwl hynny edrych ar y gwasanaeth ac mae rhai cannoedd wedi edrych ar y gwasanaeth ers hynny.

"Be' 'nathon ni hefyd oedd rhoi cyfle i deuluoedd gysylltu yn fyw ar Facebook ar ôl y gwasanaeth fel bod plant yn gallu gweld ei gilydd ac yn ystod yr wythnos mae dau gwrdd gweddi wedi'u cynnal ar Skype.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

"O'dd yn grêt bod pobl sydd ddim yn dod fel arfer wedi gallu bod yn rhan o'r cwrdd gweddi - rhieni sydd â phlant, er enghraifft - a mae hynna wedi 'neud i fi feddwl am y dyfodol - dwi'n meddwl 'nai barhau i gael cwrdd gweddi Skype ar ôl hyn.

"Dwi'n llawn sylweddoli nad yw pawb wedi arfer â'r cyfryngau cymdeithasol ac felly ddydd Iau diwetha mi 'nes i seminar ar y we i weinidogion ac unrhyw un arall oedd am gael tips.

"Rydan ni'n sicr wedi cyrraedd cynulleidfa ehangach o bobl, fel eglwys," ychwanegodd.

'Rhywfaint o normalrwydd'

Capel arall oedd am wneud yn siŵr bod y plant yn cael cael rhywfaint o normalrwydd oedd Capel y Morfa, Aberystwyth.

Drwy gyfrwng y we, fe wnaeth yr athrawes Catherine Griffiths sicrhau bod plant yr Ysgol Sul yn gallu llunio cerdyn Sul y Mamau ac yn ôl yr arfer ar fore Sul ro'dd bisged hefyd!

Ffynhonnell y llun, Meithrin y Morfa

Disgrifiad o'r llun, Seth a Greta yn mwynhau eu gwers Ysgol Sul adre drwy gyfrwng y we ddydd Sul diwethaf

"Be' wnes i oedd darparu fideo o flaen llaw ac yna sicrhau ei fod yn cael ei chwarae am 10.30 ar Facebook - sef amser arferol yr Ysgol Sul," meddai Catherine.

"Roedd y fideo wedyn ar gael i grŵp Meithrin y Morfa - fe gafon nhw stori Moses yn y brwyn i ddechrau, yna fe 'naethon nhw gerdyn Sul y Mamau ac roedd 'na gyfle i fod yn rhan o gân hefyd.

"Ro'dd yn braf iawn cael mwy o gynulleidfa a chael pawb yn anfon eu lluniau i'r grŵp ar y diwedd. Mae croeso i unrhyw un ymuno."

Darpariaeth S4C a Radio Cymru

  • Am yr wythnosau nesaf bydd rhaglenni ychwanegol o Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar foreau Sul am 11 ar . Bydd yn gyfle, medd y cynhyrchwyr, i "gyflwyno myfyrdod, gweddi a chân".
  • Ar Radio Cymru, yn ogystal â'r Munud i Feddwl arferol yn y bore bydd gair o fyfyrdod ddwywaith yr wythnos yn ystod rhaglen Bore Cothi gan weinidogion ar draws Cymru. Yn ogystal bydd yr oedfa ar ddydd Sul ar Radio Cymru yn ceisio helpu pobl i wynebu pryder ac unigrwydd y cyfnod gwahanol yma a bydd Bwrw Golwg yn dod â'r newyddion diweddaraf ac yn trafod materion moesol sy'n deillio yn sgil yr haint.

'Gofal bugeiliol yn bwysig'

Roedd yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu cadw'r eglwysi ar agor nid ar gyfer digwyddiadau torfol ond fel man i unigolion fyfyrio neu weddïo ond yr wythnos hon yn dilyn mesurau newydd bu'n rhaid cau'r eglwysi.

Gellir, yn eithriadol ac yn ôl y galw, agor adeiladau eglwysig i gynnal banciau bwyd, ceginau cawl a llochesi i'r digartref ond dim ond at y diben hwn yn unig.

Wythnos yn ôl fe wnaeth Archesgob Cymru, John Davies, annog pobl i osod cannwyll olau yn eu ffenest - digwyddiad unigol ond o gael llawer yn ei wneud "mae'n ddigwyddiad ar y cyd ac yn ein huno fel Cristnogion - mae'n cadw pobl yn rhan o deulu Duw," ychwanegodd Esgob Bangor, Andy John.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Amelia Davies o Aberystwyth yn un wnaeth roi cannwyll yn y ffenest

Ond mae 'na bryderon y bydd pobl sydd heb arfer â'r we yn cael eu hamddifadu.

"Mae'n rhaid i ni gofio am bobl sydd heb y teclynnau 'ma," meddai Judith Morris, "ac mae'n bwysig cadw cysylltiad ar y ffôn yn gyson.

"Ry'n ni'n cofio yn arbennig am deuluoedd galar na sydd bellach yn cael cysur gan ymwelwyr yn galw na chwaith yn gallu gael angladd cyhoeddus - mae'n bwysig eu ffonio neu recordio neges iddynt.

"Mae'n gofal bugeiliol dros eraill yn bwysicach nag erioed."

Disgrifiad o'r llun, Un o'r negeseuon oddi ar gyfrif trydar Capel Minny Steet, Caerdydd

Ychwanegodd: "Mae haint coronafeirws, wedi dod â newid i'n bywydau, wedi cyflwyno heriau newydd ond ry'n yn barod fel eglwysi i wynebu'r her honno - yn y tymor canolig a'r tymor hir.

"Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gweddïo ac yn gofalu am ein gilydd."

Hefyd o ddiddordeb: