Â鶹ԼÅÄ

Dim gwasanaethau crefyddol oherwydd coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
GETTYFfynhonnell y llun, Rawpixel
Disgrifiad o’r llun,

Mae Archesgob Cymru wedi galw ar eglwysi i aros ar agor er mwyn caniatau i bobl "weddio yn eu hamser eu hunain...."

Mae cannoedd o wasanaethau crefyddol wedi eu canslo ddydd Sul fel rhan o'r ymateb i argyfwng coronafeirws.

Fe gyhoeddodd Yr Eglwys yng Nghymru yn gynharach yn yr wythnos na fyddant yn cynnal gwasanaethau.

Yn yr un modd mae capeli anghydffurfiol, yr Eglwys Gatholig a Chyngor Mwslemaidd Prydain yn dilyn canllawiau tebyg.

Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, y gallai gweddïau gael eu rhannu arlein, gyda rhai gwasanaethau yn cael eu ffrydio.

"Rydym yn annog eglwysi i aros ar agor yn ystod y dydd er mwyn rhoi lle i bobl weddïo yn eu hamser eu hunain, ac i gael cyfle am adfywiad ysbrydol a chyfle i adlewyrchu."

Yn ei neges ar gyfer Sul y Mamau dywedodd yr Archesgob y dylai pobl ifanc ddefnyddio amser rhydd i helpu eraill.

"Pe bai chi adre o'r brifysgol neu goleg, neu nad ydych yn y gwaith - beth bynnag yw'r rheswm - defnyddiwch yr amser yma i wneud rhywbeth positif."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Archesgob Cymru John Davies gyflwyno ei neges ar YouTube a gwefan Yr Eglwys yng Nghymru