Â鶹ԼÅÄ

Cwmni Laura Ashley yn nwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
laura 2
Disgrifiad o’r llun,

Roedd patrymau a defnydd Laura Ashley yn rhan annatod o ffasiwn y 70au a'r 80au

Mae'r cwmni dillad Laura Ashley wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr wedi i drafodaethau ar geisio achub y cwmni fethu.

Yn ôl y cwmni mae'r epidemig wedi effeithio'n fawr ar eu perfformiad ac fe fyddai prynu a gwerthu eu cyfranddaliadau yn cael eu gohirio.

Mae'r cwmni wedi bod mewn trafodaethau ers tro gyda'u benthycwyr i geisio cael mynediad at fwy o arian.

Cafodd cwmni Laura Ashley ei sefydlu yn 1953 gan Laura a Bernard Ashley a ddechreuodd brintio defnydd yn eu cegin yn Llundain.

Fe sefydlodd y ddau bencadlys i'r busnes llwyddiannus ym mhentref Carno ym Mhowys, cyn i'r brand ddod yn fyd-enwog.

Agorwyd ffatri yno yn 1967 ac ar un cyfnod roedd Laura Ashley yn cyflogi mwy na 800 o weithwyr yng Ngharno ac yn Y Drenewydd.

Cafodd staff diwethaf y ffatri eu diswyddo yn 2005.

Ym mis Rhagfyr 2018 fe gyhoeddodd y cwmni golled ariannol flynyddol o dros £14m, gan roi'r bai ar yr ansicrwydd ynghlwm â Brexit.

Mae Laura Ashley yn un o nifer o fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd dygymod gydag effeithiau economeg y feirws.

Yn ddiweddarach dydd Mawrth mae disgwyl i'r Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi cyfres o fesurau i geisio cynorthwyo busnesau.