Â鶹ԼÅÄ

Gwerthu hen ffatri Laura Ashley

  • Cyhoeddwyd
ffatri Laura Ashley CarnoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r ffatri'n bencadlys i gwmni Laura Ashley

Mae cwmni lledr a chroen dafad o orllewin Swydd Efrog wedi prynu adeilad ffatri adnabyddus ym Mhowys.

Bu safle Laura Ashley yng Ngharno ar werth ers 2007.

Fe sefydlodd Laura a Bernard Ashley bencadlys y busnes llwyddiannus yn y pentref, cyn i'r brand ddod yn fyd-enwog.

Agorodd y ffatri yn 1967, a chafodd y staff diwethaf eu diswyddo yn 2005. Ar un cyfnod, roedd Laura Ashley'n cyflogi mwy na 800 o weithwyr yng Ngharno ac yn Y Drenewydd.

Cwmni teuluol o Bradford ydy West Yorkshire Fellmongers - un o ddarparwyr crwyn oen a dafad, a gwlân carped mwyaf y DU.

Mae'r cwmni eisoes wedi prynu cyn ladd-dÅ· Hamer's yn Llanidloes.

Mae gan y cwmni Warant Brenhinol i ddarparu cynnyrch lledr i'r Frenhines.

Brynhawn Gwener, fe gadarnhaodd llefarydd ar ran West Yorkshire Fellmongers eu bod nhw wedi prynu'r safle yng Ngharno.

Doedd gan y cwmni ddim rhagor o wybodaeth ynglŷn â'u cynlluniau ar gyfer y safle.