Coronafeirws: 'Ymdrechion mawr' i reoli'r haint

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi dweud na ddylai achosion o coronafeirws atal pobl "rhag byw eu bywydau bob dydd fel yr arfer".

Dywedodd Mr Drakeford bod "ymdrechion mawr yn cael eu gwneud i reoli'r feirws".

Ond ychwanegodd y dylai pobl gymryd gofal gyda hylendid drwy olchi eu dwylo a pheswch neu disian i hances.

Mae'r pedair llywodraeth yn y DU "yn y lle gorau posib i arafu ymlediad y feirws gyda'i gilydd", meddai.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ym mhencadlys Llywodraeth Cymru, dywedodd nad oes angen i ysgolion gau oherwydd pryderon am unigolion.

Dywedodd Mr Drakeford: "Ar hyn o bryd mae'n fater o gario 'mlaen fel arfer - mae ymdrechion mawr yn cael eu gwneud i atal ymlediad y feirws.

"Y cyngor yw i bobl gario 'mlaen fel yr arfer yn eu bywydau bob dydd a'u busnesau.

"Ni ddylai pobl fynd i adran frys ysbytai neu at y meddyg, ond yn hytrach i ffonio gyntaf ac fe gewch chi gyngor da.

"Gyda'n gilydd ry'n ni yn y sefyllfa gorau posib i arafu'r feirws.

"Os fyddwn ni'n symud y tu hwnt i strategaeth cyfyngiant - ac mae hynny'n 'ond' mawr - ry'n ni'n gweithio tuag at gynllunio at y gwaethaf... ond os fydd pethau'n mynd yn anoddach, gallai fod sefyllfa lle y byddai'n rhaid gohirio gwaith dydd-i-ddydd y Gwasanaeth Iechyd er mwyn delio gyda gofynion coronafeirws."

Roedd Mr Drakeford yn siarad yn dilyn cyfarfod o bwyllgor argyfwng Cobra Llywodraeth y DU fore Llun.

Cafodd y cyfarfod hwnnw ei gadeirio gan Boris Johnson, gyda phrif weinidogion Yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn bresennol.