Â鶹ԼÅÄ

Coronafeirws: 'Dim angen i bobl fod yn bryderus'

  • Cyhoeddwyd
coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen i bobl byw eu bywydau yn ôl yr arfer a pheidio poeni ynghylch achosion coronafeirws, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru.

Pwysleisiodd Vaughan Gething bod dim angen cau ysgolion na phrynu nwyddau mewn panig, ond bod rhaid cymryd y camau priodol pe bai rhywun yn datblygu symptomau.

Cafodd achos coronafeirws cyntaf Cymru ei gadarnhau ddydd Gwener, a hynny yn achos claf oedd wedi dychwelyd o ogledd Yr Eidal.

Ers i'r cyflwr ddod i'r amlwg yn China yn y lle cyntaf, mae 23 o achosion wedi eu cadarnhau yn y DU ac mae yna rybudd i ddisgwyl rhagor.

"Dydyn ni ddim eisiau achos i bobl fynd i banig," meddai Mr Gething wrth raglen Sunday Supplement Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Vaughan Gething bod y cyngor yr un fath i bobl ymhob un o wledydd y DU

"Rydym mewn sefyllfa o adnabod a rheoli achosion coronafeirws. Dyna ble rydyn ni nawr a ni allwn fod yn sicr ynghylch be ddaw yn y dyfodol.

"Dydw i ddim yn credu byddai'n ddoeth i unrhyw ran o'r llywodraeth gyflwyno'r darlun mwyaf pryderus a gofyn i bobl baratoi ar gyfer hynny.

"Does dim rhaid i bobl fod yn bryderus, does dim rhaid i ni weld ysgolion yn cau a does dim angen i bobl gael stoc o nwyddau angenrheidiol.

"Mae angen i bobl fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd arferol."

Dywedodd Mr Gething fod yna drafodaethau cyson am y ffordd ymlaen gyda Llywodraeth y DU ond yr apêl ym mhob un o wledydd y DU yw i bobl "ddilyn cyngor y GIG" os ydyn nhw'n amlygu symptomau posib.

'Obsesiwn hylendid'

Mae cadeirydd pwyllgor iechyd y Cynulliad, Dai Lloyd, yn annog pobl i fod "ag ychydig o obsesiwn ynghylch hylendid" wrth ymateb i sefyllfa "heb ei debyg" hyd yn hyn.

Dywedodd: "Mae'n un heriol i ymateb iddo, felly ar lefel bersonol a chymunedol, mae angen i ni wneud y pethau bychain yn y lle cyntaf.

"Mae angen i ni fod ag ychydig o obsesiwn ynghylch hylendid, golchi ein dwylo'n aml gyda sebon a dŵr ac ynysu ein hunain yn obsesiynol hefyd."

Mae symptomau'r feirws yn cynnwys tymheredd uchel, cur pen, peswch, tisian a thrafferthion anadlu.