Â鶹ԼÅÄ

Achosion o'r coronafeirws yn 'debygol' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
cyrraedd HeathrowFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae unrhyw ymwelwyr â China yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am symptomau

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a phrif swyddog meddygol Cymru wedi rhybuddio ei bod hi'n "debygol" y bydd achosion o'r coronofeirws yn dod i Gymru.

Daw hynny'n dilyn cadarnhad ddydd Gwener fod dau berson wedi'u profi'n bositif am y feirws yn y Deyrnas Unedig.

Yn sgil y datblygiad mae prif swyddogion meddygol Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cynghori y dylid codi lefel risg y DU o isel i gymedrol.

Mae'r feirws wedi effeithio ar bron i 10,000 o bobl yn China, gan ladd o leiaf 213.

Mae'n debyg fod y ddau glaf dan sylw wedi bod yn aros mewn gwesty yn Sir Efrog, cyn cael eu cludo i ganolfan arbenigol yn Newcastle.

Mae 98 o achosion wedi bod mewn 18 o wledydd eraill.

Yn sgil y feirws mae dathliadau'r Flwyddyn Newydd Chineaidd oedd i fod i gael eu cynnal ym Mangor dros y penwythnos wedi'u canslo "fel arwydd o gydgefnogaeth â'n ffrindiau a'n cydweithwyr yn China".

'Mesurau cadarn ar waith'

Dr Quentin Sandifer ydy Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwr Strategol Ymateb Coronafeirws yng Nghymru.

Dywedodd: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yng Nghymru a chenhedloedd eraill y DU, Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd ehangach yng Nghymru, ac eraill i fonitro'r sefyllfa'n agos nawr bod gennym yr achosion cyntaf o'r coronafeirws yn y DU.

"Mae'n debygol y bydd Cymru yn gweld achosion o'r coronafeirws, ac rydym yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid yng Nghymru a'r DU, ac wedi gweithredu ein hymateb arfaethedig, gyda mesurau rheoli heintiau cadarn ar waith i amddiffyn iechyd y cyhoedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth 83 o Brydeinwyr a 27 o dramorwyr hedfan yn ôl i'r DU o ddinas Wuhan ddydd Gwener

Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod tystiolaeth bresennol yn awgrymu fod y rhan fwyaf o achosion yn llai difrifol.

Mae'r feirws yn rhoi symptomau fel gwres, peswch, neu anhawster anadlu.

'Cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd'

Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton y byddai'n "ddoeth i lywodraethau ddwysáu eu cynlluniau a'u paratoadau rhag ofn y bydd yr achosion yn lledaenu".

"Nid yw hyn yn golygu ein bod yn meddwl bod y risg i unigolion yn y Deyrnas Unedig wedi newid ar hyn o bryd, ond dylai llywodraethau gynllunio ar gyfer pob posibilrwydd," meddai.

Ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd wedi bod yn China sy'n datblygu symptomau fel y ffliw aros adref, osgoi cysylltiad ag eraill a ffonio'r GIG.

"Mae'n debygol y bydd Cymru yn gweld achosion o'r coronafeirws newydd, ac rydym wedi gweithredu'r ymateb a baratowyd gennym, gan roi mesurau rheoli haint cadarn ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd," meddai.