Â鶹ԼÅÄ

Paratoadau mewn grym yng Nghymru i ddelio â coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Merch yn ChinaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfyngiadau teithio mewn grym yn nhalaith Hubei yn China i geisio atal coronafeirws rhag lledu

Mae "paratoadau digonol mewn grym" yng Nghymru yn dilyn lledaeniad feirws yn China, meddai corff iechyd.

Mae coronafeirws wedi effeithio cannoedd o bobl yn China, gan ladd 26.

Cafodd un person o Gymru brawf negatif am y feirws yr wythnos diwethaf, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bellach wedi dweud ei bod hi'n debygol y bydd angen asesu mwy o bobl yng Nghymru.

Risg isel

Daw'r profion wrth i ardal ehangach o dalaith Hubei yn China gael ei chau i geisio atal y feirws, sy'n tarddu o ddinas Wuhan, rhag lledaenu ymhellach.

Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod system GIG mewn grym dros Gymru.

Dywedodd bod hynny er mwyn sicrhau eu bod wedi paratoi "os ddaw unrhyw un yn ôl o China, o'r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio, yn dod i gysylltiad â'r gwasanaeth iechyd".

Ychwanegodd bod "y wybodaeth yn newid bob dydd" ond awgrymodd bod y feirws yn effeithio ardaloedd penodol o China, ac felly y byddai'r gwasanaeth iechyd yn targedu pobl sy'n dod o'r ardaloedd hynny.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i boblogaeth y DU yn isel.

Dywedodd Dr Shankar mai "dim ond un ymhob pedwar sydd â symptomau difrifol fydd angen triniaeth ysbyty".

'Cadw llygad fanwl'

Dywedodd Mr Gething fod Llywodraeth Cymru yn parhau i "gadw llygad manwl" ar yr haint.

"Gan ei fod yn ymledu i ardal ddaearyddol ehangach a bod tystiolaeth ei fod yn cael ei drosglwyddo o un person i'r llall, mae'n debygol y bydd angen asesu pobl yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig," meddai.

Ychwanegodd: "Mae asesiadau'n dal i gael eu cynnal i ganfod pa mor ddifrifol yw'r salwch a pha mor bell mae wedi lledaenu.

"Nid yw Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol ac nid yw'n argymell unrhyw gyfyngiadau ar deithio nac ar fasnach."