Pryder teulu am brinder masgiau sy'n achub bywyd

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae'n gan Byron Wright, yma gyda'i wraig Glesni, system imiwnedd gwan iawn
  • Awdur, Ffion Lloyd-Williams
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae dyn o Wynedd sydd â ffibrosis systig yn pryderu y gallai ei iechyd fod mewn perygl wrth i bobl frysio i brynu masgiau llwch yn sgil achosion coronafeirws.

Cafodd Byron Wright, 37 o Flaenau Ffestiniog, drawsblaniad ysgyfaint ym mis Mawrth 2017, ac mae ei system imiwnedd yn parhau i fod yn wan iawn.

Mae'n rhaid iddo wisgo masg mewn mannau cyhoeddus oherwydd y gallai firws neu salwch gynyddu'r risg y bydd ei gorff yn gwrthod yr organ newydd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod "dim digon o dystiolaeth" i awgrymu bod gwisgo masg yn llesol i bobl, oni bai bod meddyg wedi dweud wrthyn nhw am wneud hynny.

Dros y penwythnos fe wnaeth gwraig Mr Wright, Glesni, sydd hefyd yn gofalu amdano, archebu mwy o'r masgiau anadlu - sy'n hidlo gronynnau bychain - ond cafodd ei harian yn ôl gan nad oedd y cwmni'n gallu cwblhau'r archeb.

Yn dilyn oriau o chwilio ar y we, mae Mrs Wright wedi gallu prynu masgiau, ond mae'n dweud bod prisiau wedi cynyddu'r fawr oherwydd y galw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae Byron Wright yn gorfod gwisgo un o'r masgiau bob tro mae'n mynd allan

Yn siarad â Â鶹ԼÅÄ Cymru, dywedodd Mrs Wright: "Ers i'r coronafeirws ddod i mewn 'dan ni wedi mynd yn fwyfwy gofalus a defnyddio masgiau pwrpasol a 'neud yn siŵr bo' gynnon ni rai.

"Mi nes i feddwl prynu stoc ar y we nos Sul i bara 10 diwrnod ac mi aeth y purchase drwodd yn iawn, ond ges i neges y diwrnod wedyn yn d'eud bod nhw methu cael gafael arnyn nhw.

"Nes i ddechrau chwilio am rai eraill a sylwi bod lot o'r gwefannau 'di gwerthu allan yn llwyr a bod y rhai dros ben wedi codi mewn prisiau ac yn wirion o ddrud.

"Oeddan ni'n gallu prynu 10 masg am £10, sef £1 yr un, a rŵan ma' nhw'n amrywio o £6 i £10 yr un. Ma' nhw di codi prisiau yn ofnadwy.

"Maen nhw i'w gweld mewn stoc ar wefannau fel Ebay ac Amazon ond unwaith rwyt ti'n clicio i 'neud archeb mae nodyn 'not in stock and will not restock within 30 days' yn dod i fyny."

Ffynhonnell y llun, Glesni Wright

Disgrifiad o'r llun, Mae'r fersiwn Prydeinig o'r masgiau hefyd yn dechrau mynd yn brin, medd Glesni Wright

Mae'r masgiau N95 yn rhai Americanaidd ac mae fersiwn gwahanol i'w cael ym Mhrydain o'r enw FFP2, ond yn ôl Mrs Wright mae'r rheiny yn mynd yn brin hefyd.

"Dwi 'di ffeindio rheiny ar wefannau cwmnïau adeiladu a 'di prynu nhw'n syth ond erbyn y prynhawn 'ma, maen nhw 'di gwerthu allan," meddai.

"O China mae'r rhan fwyaf o'r math yma o fasgiau yn dod felly dwi'n poeni y byddan nhw eisiau cadw'r stoc yna iddyn nhw'u hunain.

"Mae'n amser pryderus i bobl fel ni sy'n ddibynnol arnyn nhw."

'Codi ofn'

Ychwanegodd: "Does gan rai pobl ddim ots os ydyn nhw'n dal ffliw neu annwyd - maen nhw'n mynd i'w gwaith ac yn ei ledu - ond eto, tasan nhw yn pasio'r firws i ni, mi all rhywbeth mor syml ag annwyd fod yn ddigon i newid ein bywydau ni am byth.

"'Dan ni mor ddibynnol ar dimau meddygol - beth oes yna siawns y bydd meddygon yn ei ddal?

"Ma' yna ddyn fuodd yn Wuhan wedi bod mewn cwarantin yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham.

"Mae'n ddigon i godi ofn. Mae'n boen meddwl bod yna rhywbeth mor serious o gwmpas ac mor agos i ni."

Mae China yn dal i geisio delio gyda'r feirws a'i atal rhag lledu ymhellach, gyda thrigolion nifer o ddinasoedd yn cael eu cyfyngu rhag teithio.

Bellach mae o leiaf 170 o bobl yn y wlad wedi marw o'r afiechyd, a dros 7,700 wedi'u heintio, gyda nifer fechan o achosion hefyd wedi'u cadarnhau mewn gwledydd eraill.

Mae awyren oedd i fod i gludo Prydeinwyr adref o ddinas Wuhan ddydd Iau wedi wynebu oedi, a hynny oherwydd eu bod nhw'n disgwyl am ganiatâd gan awdurdodau China i adael.

Dywedodd Wynne Lloyd-Williams, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Cymru Healthcare o Ferthyr Tudful sy'n cyflenwi offer meddygol i ysbytai, eu bod wedi gwerthu eu holl stoc o fasgiau - 500 - ddydd Mercher wedi cais "anarferol" gan brynwr yn Lloegr sy'n hanu o China.