Â鶹ԼÅÄ

Darlithydd o Gaerdydd yn disgwyl dychwelyd o China

  • Cyhoeddwyd
Dr Yvonne Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Yvonne Griffiths wedi bod yn China am dair wythnos

Mae darlithydd o Gaerdydd sydd wedi cael trafferth wrth adael China oherwydd argyfwng coronafeirws yn dweud ei bod hi nawr yn gobeithio gallu gadael y wlad ddydd Iau.

Yn wreiddiol roedd Yvonne Griffiths, 71, wedi disgwyl cael hedfan yn ôl ddydd Llun, ond cafodd yr hediad ei ganslo.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth y DU yn gwneud trefniadau i alluogi pobl o Brydain ddychwelyd o ddinas Wuhan a thalaith Hubei.

Y gred ydy bod tua 300 o Brydeinwyr yn yr ardal.

Mae'r feirws wedi achosi dros 100 o farwolaethau, ac mae wedi lledu ar draws China i o leiaf 16 o wledydd eraill.

Roedd Dr Griffiths wedi bod yn Wuhan am dair wythnos gyda dau gydweithiwr o Brifysgol Dinas Birmingham.

Dywedodd ei bod yn croesawu'r newyddion y bydd yn gallu dychwelyd.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i 6,000 o achosion wedi eu cadarnhau yn China

"Byddai'n rhyddhad mawr i gyrraedd gartref... rydyn ni'n hapus fod y llywodraeth wedi trefnu hyn," meddai.

"Roedd ffrindiau a theulu adre wedi bod yn bryderus. Mae'r risg i iechyd wedi cynyddu o ddydd i ddydd, a ddim yn lleihau."

Dywedodd ei bod wedi clywed y byddai'n cael prawf iechyd ym maes awyr Wuhan, a byddai unrhyw un sy'n dangos symptomau yn mynd i gwarantîn.

Mae disgwyl hefyd y bydd y teithwyr yn cael eu hasesu gan dîm meddygol unwaith maen nhw'n dychwelyd i'r DU.

Ychwanegodd Dr Griffiths ei bod hefyd yn deall y bod disgwyl i bobl sy'n dychwelyd i beidio â chymysgu yn y gymuned am gyfnod o bythefnos.

"Ro'n i'n synnu ychydig na fyddwn ni'n cael ein hanfon i gwarantîn, ond penderfyniad y llywodraeth ydi hynny," meddai.