Trenau Cymru'n agos at waelod rhestr bodlondeb cwsmeriaid

Disgrifiad o'r fideo, 'Dan ni dal yn gweld trenau ddim yn rhedeg ar amser'

Mae'r corff annibynnol sydd yn rheoleiddio'r gwasanaeth trenau ym Mhrydain wedi cyhoeddi fod teithwyr ar drenau Cymru ymysg y rhai lleiaf bodlon yn y DU.

Wrth holi teithwyr am agweddau gwahanol o'r gwasanaeth, fe ddaeth y corff Transport Focus i'r casgliad fod Trafnidiaeth Cymru yn gyfartal bedwerydd ar waelod rhestr y cwmnïau trenau gwahanol sydd yn cynnig gwasanaeth drwy Brydain.

Ac er bod bron 8 o bob 10 (79%) teithiwr ar drenau yng Nghymru yn fodlon gyda'r gwasanaeth yn gyffredinol, doedd dim cynnydd wedi bod yn y canlyniadau ers y llynedd.

Cafodd dros 1000 o deithwyr Trafnidiaeth Cymru eu holi fel rhan o'r arolwg, gyda 28,000 o deithwyr yn rhoi eu barn drwy Brydain.

Wrth ymateb i'r canlyniadau, dywedodd prif weithredwr Transport Focus, Anthony Smith: "Mae bron i 8 o bob 10 o deithwyr Trafnidiaeth Cymru yn fodlon ar y cyfan, ond dyw'r sgôr yma heb wella'n sylweddol ers y llynedd.

"Mae'n bryderus i nodi hefyd fod y mesur o argaeledd staff mewn gorsafoedd a'r cymorth oedd ar gael yn gostwng."

Ymatebion

Er bod yr ymateb am werth am arian ychydig yn well na'r cyfartaledd cenedlaethol o 53%, dim ond 48% o deithwyr yn ystod yr wythnos oedd yn fodlon, sydd yn "ostyngiad sylweddol" o'r 57% yn ystod hydref 2018 medd Transport Focus.

Fe ddangosodd 79% o deithwyr yng Nghymru fodlonrwydd gyda'r gwasanaeth, tra roedd 53% yn credu eu bod yn derbyn gwerth am arian.

Roedd 76% o deithwyr a gafodd eu holi yn fodlon gyda phrydlondeb gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru, a 60% yn hapus gyda'r wybodaeth oedd ar gael yn ystod y daith.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Ond dim ond 45% oedd yn fodlon gyda sut yr oedd y cwmni'n delio gydag unrhyw oedi, a 70% yn fodlon gyda phrysurdeb ar y trenau.

Dywed Transport Focus mai'r bwriad oedd defnyddio'r canlyniadau er mwyn rhoi pwysau ar y cwmnïau trenau i godi safonau a darparu gwelliannau pan roedd lle i wella.

'Problemau capasiti'

Dywedodd Bethan Jelfs o Trafnidiaeth Cymru bod y cwmni wedi canolbwyntio ar fuddsoddi mewn technoleg yn y flwyddyn ddiwethaf.

"Rydyn ni'n gwybod bod problemau capasiti yn cael effaith ar ein cwsmeriaid ac fe wnaeth amserlen Rhagfyr ein galluogi i wneud gwelliannau ar ein llwybrau prysuraf," meddai.

"Rydyn ni'n edrych am ffyrdd y gallwn ni gynyddu hyn ymhellach cyn i ni gyflwyno trenau newydd yn 2023."