Â鶹ԼÅÄ

'Trafnidiaeth wael yn tanseilio twf Caerdydd'

  • Cyhoeddwyd
Sgwâr CanologFfynhonnell y llun, Rightacres Property
Disgrifiad o’r llun,

Bydd datblygiadau fel Sgwâr Canolog yn denu miloedd o weithwyr yn ychwanegol i ganol Caerdydd

Mae de Cymru "mewn cyfnod peryglus iawn" ble gallai'r buddion o dwf Caerdydd gael ei danseilio gan drafnidiaeth wael, yn ôl melin drafod.

Bydd miloedd o weithwyr yn symud i ddatblygiadau fel y Sgwâr Canolog, gyda nifer eisoes wedi symud.

Ond gyda Metro De Cymru flynyddoedd o gael ei wireddu, mae'r Centre for Cities yn dweud bod angen datrysiad tymor byr i drafnidiaeth yn y ddinas.

Mae'r felin drafod yn galw am godi tâl ar yrwyr sy'n dod i mewn i ganol Caerdydd a gwario mwy o arian er mwyn gwella gwasanaethau bws.

Daw wedi i Lywodraeth Cymru gymeradwyo cynlluniau gwerth £21m gan Gyngor Caerdydd ddydd Gwener i weithredu cyfres o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi addo y bydd gwasanaethau trên Cymru yn cael eu "trawsnewid" o 2022/23, a'i fod yn buddsoddi £40m ar drenau cyn hynny.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Darlun artist o sut mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio y bydd Stryd y Castell yn edrych yn y dyfodol

"Mae Caerdydd mewn cyfnod peryglus iawn," meddai Simon Jeffrey o'r Centre for Cities.

"Mae ei llwyddiant yn denu mwy a mwy o bobl ond mae traffig yn dechrau llenwi'r rhwydwaith ac mae'r buddion yn cael eu gorchfygu gan gostau."

Bysiau i'r adwy?

Dywedodd Mr Jeffrey bod "pwysau gwirioneddol" ar wasanaethau trên i Gaerdydd yn ystod yr wythnos.

Mae'n credu y byddai defnyddio bysiau yn ddatrysiad hawdd yn y tymor byr.

"Mae trafnidiaeth sâl yn arwain at fwy o bobl yn defnyddio ceir, sy'n arafu'r bysiau a gwthio'r costau i fyny, gan eu gwneud yn llai dibynadwy," meddai.

"Y ffordd gyflymaf i ddelio â hyn, tra'n gwella ansawdd aer a lleihau'r effaith amgylcheddol, yw trwy godi tâl am yrru i ganol y ddinas.

"Fe allai'r arian sy'n cael ei godi trwy hyn gael ei fuddsoddi yn y bysiau a gostwng cost teithiau i £1."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru'n dweud y bydd Metro De Cymru yn "trawsnewid" gwasanaethau trên

Mae Mr Jeffrey wedi dweud hefyd y dylid codi tâl ar gwmnïau am bob lle parcio sydd ganddyn nhw - awgrym sydd wedi'i wneud gan Sustrans Cymru hefyd yn y gorffennol.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi papur gwyn wythnos nesaf ar ei gynlluniau trafnidiaeth am y degawd nesaf, allai gynnwys codi tâl am yrru i ganol y ddinas.

Beth am drenau?

Dydy Mr Jeffrey ddim yn rhagweld newidiadau mawr i wasanaethau trên cyn 2020, pan fydd trenau newydd wedi'u dylunio'n arbennig ar gyfer y cynllun Metro yn dechrau gweithredu.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd £750m yn cael ei wario ar reilffyrdd Cymru a'r Gororau fel rhan o gynllun Metro De Cymru.

"Gall cwsmeriaid ddisgwyl gweld gwasanaethau'n trawsnewid o 2022/23 ar ôl i'n stoc newydd gyrraedd, fydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau cynt, mwy gwyrdd, mwy aml, gyda 65% yn fwy o gapasiti ar draws ein rhwydwaith," meddai llefarydd.

"Yn y cyfamser ry'n ni'n cyflwyno trenau mwy modern yn ne Cymru, gan wneud lle i 6,500 o gwsmeriaid yn ychwanegol pob wythnos ar ein gwasanaethau prysuraf."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru er mwyn gwella'r rhwydwaith trenau ac y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth i wella gwasanaethau bws.

Ychwanegodd bod dros £40m mewn grantiau yn cael ei roi i awdurdodau lleol er mwyn annog teithio actif, fel cerdded a seiclo.