'Colli cyfle' gyda chyllideb Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i wneud newid mawr i wasanaethau cyhoeddus gyda'i chyllideb eleni, yn ôl y gwrthbleidiau.

Cafodd ACau y cyfle cyntaf i graffu ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 ddydd Mawrth.

Cyhuddodd Plaid Cymru y llywodraeth o beidio dangos "arloesedd na dychymyg", tra dywedodd y Ceidwadwyr ei fod yn gyllideb "gyffredin".

Dywedodd y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, fod y gyllideb yn cefnogi ei chynlluniau ar gyfer "Cymru fwy llewyrchus a gwyrddach".

Bydd pob adran o Lywodraeth Cymru yn gweld cynnydd yn y cyllid o fis Ebrill nesaf.

£600m yn ychwanegol

Dyma'r tro cyntaf mewn degawd i'r cynnydd ddigwydd, ac mae'n dilyn y cyhoeddiad o £600m yn ychwanegol gan lywodraeth y DU yn 2019.

Fel rhan o'r cynlluniau bydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn derbyn tua £340m yn ychwanegol o fis Ebrill, tra bydd cyllid y cyngor yn codi 4.3%.

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Darren Millar, wrth y siambr fod llywodraeth y DU wedi dod â grant bloc Cymru i'w "lefel uchaf erioed".

"Mae gennym ni gyfle euraidd yn y gyllideb hon, cyfle euraidd i fuddsoddi ym mlaenoriaethau pobl, i yrru economi fwy deinamig," meddai.

"Mae gen i ofn ei fod yn gyfle y mae'r Gweinidog Cyllid wedi'i golli, wrth gwrs.

"Lle bu cyfle i fod yn radical, rydych chi wedi cadw at ddull gweithredu Llywodraethau Cymru sydd wedi hen ennill ei blwyf."

Ailadroddodd feirniadaeth i beidio â bwrw ymlaen â Ffordd Liniaru'r M4, beirniadodd £4.8m ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, a galwodd am ffordd o lefelu gwahaniaethau mewn codiadau ar gyfer cynghorau.

"Mae'r codiadau cyllid yn amrywio o 3% yn Sir Fynwy sy'n cael ei rhedeg gan y Ceidwadwyr i 5.4% yng Nghasnewydd sy'n cael ei redeg gan Lafur drws nesaf."

'Dim dychymyg'

Dywedodd AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth hefyd fod y gyllideb yn "gyfle a gollwyd".

"Rydyn ni mewn sefyllfa lle mae pob pennawd gwariant wedi gweld cynnydd, rwy'n credu, ac ar ôl degawd o doriadau parhaus yn y rhan fwyaf o feysydd mae hynny'n rhyddhad," meddai.

Ond yr hyn oedd yn ei "siomi", meddai, oedd nad oedd y llywodraeth wedi cymryd y cyfle i "newid diwylliant mewn unrhyw ffordd arwyddocaol".

"Yr hyn sydd gennym yma yw cyllideb arall sy'n rheolaethol ond sy'n dangos dim arloesedd na dychymyg.

"Ni allaf weld yn y gyllideb hon arwydd o lywodraeth yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mewn gwirionedd," ychwanegodd.

Dywedodd y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, ar ddechrau'r ddadl "er gwaethaf honiadau bod cyni ar ben, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020/21 bron i £300m yn is mewn termau real" na'r flwyddyn flaenorol.

"Rwy'n falch bod y bumed gyllideb - a therfynol - hon o dymor y Cynulliad hwn yn cyflawni'r addewidion gwariant allweddol a wnaethom i bobl Cymru yn 2016 ar brentisiaethau pob oed, gwella ysgolion, gofal plant, help i fusnesau bach, mynediad cyflym i triniaethau newydd, tai fforddiadwy, a llawer mwy."

Dywedodd fod gweinidogion yn "dyrannu pecyn newydd o £140m o arian cyfalaf i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio ac i amddiffyn ein hamgylchedd rhyfeddol".

Mae cyhuddiadau o ragfarn yn y modd y mae cynghorau'n cael eu hariannu yn "gywilyddus", meddai, gan ychwanegu bod cyllid yn cael ei ddosbarthu yn ôl "angen cymharol".