Â鶹ԼÅÄ

Mwy o arian i'r GIG yn y gyllideb ddrafft

  • Cyhoeddwyd
Wales' flag on a piggy bankFfynhonnell y llun, MikhailMishchenko/Getty Images

Bydd y Gweinidog Cyllid yn cyhoeddi cyllideb ddrafft ddydd Llun a fydd yn buddsoddi'n sylweddol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac yn ymdrechu i ddelio â newid hinsawdd.

Hon fydd Cyllideb gyntaf Llywodraeth Cymru ers i'r datganiad ar argyfwng yr hinsawdd gael ei gyhoeddi yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth Cymru y "bydd yn helpu i greu Cymru wyrddach, mwy cyfartal a mwy llewyrchus".

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Canghellor Sajid Javid addo £600m ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ei Adolygiad Gwariant.

Pan mae'r canghellor yn rhoi arian ychwanegol i Loegr, mae Cymru hefyd yn elwa drwy fformiwla Barnett.

Ond mewn termau real mae'r cyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru yn is na'r hyn oedd yn 2010.

'Diogelu dyfodol y blaned'

Cyn i'r Gyllideb gael ei chyhoeddi, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans: "Mae'r Gyllideb ddrafft hon yn gwireddu ein haddewid i bobl Cymru ac yn buddsoddi i ddiogelu dyfodol ein planed.

"Er gwaethaf degawd o gyni, bydd ein cynlluniau yn golygu y byddwn wedi buddsoddi £37bn yn y GIG yng Nghymru ers dechrau tymor y Cynulliad hwn yn 2016.

"Rydyn ni hefyd yn neilltuo swm sylweddol o arian newydd i arafu'r newid yn yr hinsawdd ac i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, fel ysgolion a llywodraeth leol, i gyd yn gweld cynnydd yn eu harian.

"Mae ein haddewidion wedi llywio ein blaenoriaethau yn wyneb cyni didostur llywodraeth y DU sy'n golygu bod Cymru wedi bod ar ei cholled."

Daw 80% o gyllideb Llywodraeth Cymru o Drysorlys y DU a daw'r gweddill o drethi fel y Dreth Trafodiadau Tir, trethi busnes a threth gwarediadau tirlenwi.

Mae trethi sydd wedi'u datganoli yn codi oddeutu £2bn i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ynghyd â grant o £14bn o Lywodraeth y DU.

Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf cafodd 50% o gyllid Llywodraeth Cymru ei wario ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a 27% ar dai a llywodraeth leol, sy'n cynnwys ysgolion.

Tan nawr, dim ond 2% o gyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi'i wario ar yr amgylchedd, ynni a materion gwledig.

Bydd Cyllideb Ddrafft 2020-21, sy'n nodi'r cynlluniau gwario refeniw a chyfalaf am un flwyddyn, yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn ystod y dydd.