Â鶹ԼÅÄ

'Mae pobl ifanc yn teimlo unigrwydd hefyd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Mae pobl ifanc yn teimlo unigrwydd hefyd' yn ôl Lowri Cêt jones

Mae ymchwil gan elusen yn dangos fod unigrwydd yn parhau'n broblem fawr yng Nghymru, gydag un o bob pump o oedolion wedi teimlo'n unig am gyfnod.

Fel arfer, mae bod yn unig yn gysylltiedig â'r genhedlaeth hŷn, ond mae'n ymddangos fod mwy o bobol ifanc yn teimlo'n unig y dyddiau yma yn ôl y Samariaid.

Mae un fyfyrwraig o Ynys Môn yn dweud iddi brofi "cyfnod isel iawn" am ei bod hi'n teimlo'n unig er bod ganddi lwyth o ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl elusen y Samariaid: "Mae unigrwydd yn broblem reit fawr, ac mae rhyw ugain y cant o bobol ifanc yn teimlo bo nhw'n unig neu wedi ynysu."

Unigrwydd pobl ifanc

Mae Lowri Cêt o Gaerwen, Ynys Môn yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor ac yn astudio cwrs Cyfryngau a'r Theatr. Mae hi'n hoffi perfformio ac yn berson cymdeithasol, ond mae hi hefyd yn cael cyfnodau o or-bryder oherwydd unigrwydd.

Ddwy flynedd yn ôl mi gafodd gyfnod o deimlo'n isel iawn.

"Dwi meddwl dydi pobol ddim yn cysidro fod pobol ifanc yn unig oherwydd ein bod ni mor connected mewn ffordd efo'r cyfryngau cymdeithasol i gyd a'r ffons yn ein llaw," meddai.

"Ella nai yrru neges i rywun yn gofyn 'tisho cyfarfod?' a ti'n sylwi ella bo nhw 'di ddarllen o a ti'm yn cael ateb yn ôl, a ti'n gweld nhw'n teipio, ac wedyn does dim neges yn ei ddilyn o."

"Mae o'r teimlad 'na o rejection bron iawn. Mae o'n atgyfnerthu mewn ffordd yr unigrwydd da chi'n teimlo.

"Pan ma'r henoed yn unig ma'r gymuned yn neud petha fel bore coffi neu ryw wasanaeth yn rhywle i bobol ddod at ei gilydd i dynnu pobol allan o'u tai i weld ei gilydd. Ond efo pobol ifanc, does na'm byd i bobol ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Tudur Williams yw Cyfarwddwr Cangen Gogledd Orllewin Y Samariaid

Yn ôl Tudur Williams, Cyfarwyddwr Cangen Gogledd Orllewin Y Samariaid, mae pobol o bob oed yn medru teimlo'n unig, ond mae'n broblem sy'n taro pobol ifanc fwyfwy.

"Maen nhw wrthi ar y cyfrifiadur ac yn siarad â phobol ar lein ond dydyn nhw ddim yn cysylltu efo pobol yn unigol, ac wedyn mae hynny yn neud iddyn nhw deimlo yn ynysig a does ganddyn nhw ddim lot o ffrindiau.

"Allen nhw fod mewn criw mawr o bobol ac yn dal i deimlo yn unig.

"Mae'r Samariad ar gael i wrando pedair awr ar hugain y dydd, ac mae yna linell Gymraeg ar gael rhwng 07:00 - 23:00 hefyd," meddai.

Mae Lowri Cêt yn siarad yn agored am ei phrofiadau, ond yn deud fod nifer o bobol ifanc yn rhoi'r argraff nad ydyn nhw'n dioddef.

"Ym Mhrydain 'da ni'n tueddu i roi gwynab caled, stiff upper lip a ballu a pheidio dangos yr emosiwn."

Yn 2017 o ganlyniad i deimlo'n unig, mi gafodd Lowri gyfnod anodd a gorfod cymryd tabledi iselder.

"O'n i wedi bod am bythefnos yn gwely ar ben fy hun. Nes i golli jest i ddwy stôn, do'n i ddim yn byta. Nes i godi saith i wyth gwaith mewn pythefnos i bi-pi a na-fo. Nes i'm codi o ngwely." .

Nadolig yn anodd

Wedi cyfnodau o gwnsela yn y brifysgol, mae Lowri bellach yn teimlo'n well. Ond mae hi'n deud fod y Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd o ran unigrwydd i bobol ifanc am fod pawb yn cymryd yn ganiataol fod digon o gyfleoedd i gymdeithasu.

"Does 'na ddim byd ar gyfer pobol ifanc o gwmpas y Nadolig. Ma' nhw'n disgwyl bo chi am fynd allan eich hunain.

"Dwi meddwl bo chi yn estyn allan i neud wbath a gofyn i rywun 'Tisho dod draw, awn ni am goffi? Tisho mynd allan?' Ond, bo chi hefyd os da chi'n cael neges gan ffrind, ella yn enwedig os nad da chi ddim wedi eu gweld nhw ers tipyn, bo chi ddim jest yn anwybyddu'r neges 'na."

"Mae o'n rwbath dwi angen ei wneud hefyd. Os da chi'n rhy brysur, jest deud.

"Mae angen ateb ein gilydd a chadw'r cysylltiad," meddai.