Â鶹ԼÅÄ

Taclo unigrwydd

  • Cyhoeddwyd

Yn ôl mae dros hanner rhieni Cymru yn diodde' o unigrwydd. Bu Garry Owen yn trafod effaith unigrwydd ar iechyd pobl.

Aeth i ymweld â grŵp arbennig o bobl yn ardal Y Fenni i sgwrsio â'r rhai sy'n cyfarfod yno fel rhan o gynllun 'Ffrind i Mi'. Dyma gynllun sy'n ceisio ymateb i'r niferoedd o bobl yn yr ardal oedd yn mynd at y meddyg teulu am eu bod nhw'n teimlo'n unig.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Yn ôl Rhiannon Davies, Swyddog Iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd hefyd yn gwirfoddoli ar y cynllun trwy gynnal clwb Scrabble unwaith yr wythnos yn Y Fenni, nod y prosiect yw ceisio dod â phobl at ei gilydd i chwarae gemau ac i gymdeithasu dros baned a theisen.

"Mae'n holl bwysig i bobl gael y cyfle i gymdeithasu. Gallwch chi fod â llond tŷ o bobl yn byw gyda chi ond gallwch chi dal fod yn unig.

"Bydde dim un [o'r bobl sy'n dod i'r clwb Scrabble] yn cyfadde' eu bod nhw'n unig, ond mae nifer ohonyn nhw yn byw ar ben eu hunain, dydyn nhw ddim yn gweld pobl o ddydd i ddydd a wedyn maen nhw wrth eu boddau yn dod i rywbeth fel hyn, mae mor bwysig dwi'n meddwl."

"Fel chi'n dod i 'nabod y bobl, maen nhw'n rhannu fwy 'da chi a byddwch chi'n gallu sylwi os nad ydyn nhw'n hwylus a gallwn ni sicrhau a ydyn nhw'n cael gofal. 'Sdim dal pwy sy'n troi lan yma, weithie mae mamau ifanc yn dod i gael paned a chlonc, a mae'n bwysig yn yr ardal 'ma i gefnogi'r iaith a rhoi'r cyfle i bobl i siarad yr iaith.

"Mae'r bobl sy'n dod i gysylltiad â Ffrind i Mi, maen nhw fel pobl gwahanol, maen nhw'n gwenu, yn siarad mwy, a chi'n gallu gweld y gwahaniaeth yn syth a mae'n 'neud daioni iddyn nhw, a mae'n 'neud daioni i fi hefyd achos chi'n teimlo eich bod chi'n rhoi rhywbeth nôl i'r gymuned hefyd," ychwanegodd Rhiannon Davies.

Disgrifiad,

Garry Owen yn sgwrsio â Rhiannon Davies am unigrwydd

Un sydd wedi elwa o ddod i'r clwb yn Y Fenni ydy Norman. Mae'n byw ar ei ben ei hun, meddai, ac mae dod allan yn help mawr iddo.

"Mae aros yn fy nhŷ drwy'r dydd, heb siarad â unrhywun, mae dipyn bach yn ddiflas. Dwi'n gwneud rhywbeth bron bob dydd, mae'n bwysig iawn. Dwi'n lwcus iawn fy mod i'n gallu gyrru, achos does dim bysiau yn fy mhentre', a heb gar byswn i yn isolated.

"Amser maith yn ôl roedd pawb yn byw gyda'i gilydd. Nawr mae pawb yn gweithio, yn gadael y tŷ yn gynnar yn y bore ac yn dod nôl yn hwyr a mae rhieni yn byw yn rhywle arall yn y byd a weithie mae'n amhosib i gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu."

Disgrifiad,

Norman yn sgwrsio am y clwb Scrabble a chynllun 'Ffrind i Mi'

Dywedodd Dr Ffion Williams, ar ran meddygon teulu ar raglen Taro'r Post bod tua 20% o bobl sy'n mynd at y meddyg teulu yn diodde' o broblemau cymdeithasol, ac mae unigrwydd yn rhan o hynny.

"Mae'n siŵr ei fod yn beth anodd i bobl ddweud [eu bod nhw yn unig] ... a 'falla eu bod nhw'n dod i mewn efo problemau meddygol ond pan mae rhywun yn gofyn yn ofalus iddyn nhw beth sy'n mynd ymlaen, am yr unigrwydd maen nhw wedi dod i mewn a dim y broblem feddygol.

"Y peth newydd o fewn y gwasanaeth meddygon teulu rŵan ydy bod ni'n sbïo am ffyrdd i 'neud prescripsiynu cymdeithasol, a wedyn 'dan ni fel meddygon teulu, trwy gweithwyr Linc, yn dweud wrth bobl beth sy' allan yna i helpu efo'i problemau cymdeithasol nhw."

Hefyd o ddiddordeb: