'Cymru angen arwain y ffordd' ar atal llygredd plastig 3G

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rwber du wedi'i wneud o deiars ceir yn cael ei ddefnyddio ar nifer o gaeau 3G

Fe allai Cymru arwain y ffordd ar leihau llygredd plastig gan gael rheolau llymach ar gaeau chwaraeon artiffisial, yn ôl amgylcheddwyr.

Mae rwber o deiars ceir yn cael ei ddefnyddio ar nifer o gaeau 3G a pharciau chwarae i blant am ei fod yn gwneud y llawr yn fwy meddal.

Ond mae amgylcheddwyr yn dweud ei fod yn gallu cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.

Mae pwyllgor Cynulliad wedi galw am fynd i'r afael â'r mater, a dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn gweithredu i fynd i'r afael â llygredd plastig.

Rwber yn mynd i'r dŵr

Mae tua 50 o gaeau artiffisial 3G yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau cynyddu hynny i 100 erbyn 2024.

Mae caeau o'r fath yn boblogaidd am eu bod yn atal gemau rhag cael eu canslo oherwydd dŵr ar y cae.

Ond mae galwadau wedi bod i atal llygredd o'r caeau, gydag ymchwil yn awgrymu bod unrhyw faint rhwng un a phum tunnell o rwber yn cael ei golli o'r caeau pob blwyddyn.

Mae'r darnau bach du yn gallu mynd i afonydd wrth i chwaraewyr gymryd cawod neu olchi eu dillad, neu trwy nentydd wrth ochr caeau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae tua 50 o gaeau artiffisial 3G yng Nghymru ar hyn o bryd

Mae 'na ganllawiau ar gyfer sefydlu caeau artiffisial ger afonydd neu lynnoedd, ond dywedodd sefydlydd elusen Just One Ocean nad yw hyn yn atal plastig rhag niweidio'r amgylchedd.

Dywedodd David Jones y gall Cymru arwain y ffordd gan gyfyngu'r niwed sy'n cael ei achosi gan rwber teiars gan gynnal y caeau yn well a gwneud mwy i atal y darnau bach rhag mynd i'r dŵr.

'Deall y risgiau'

Yn ei ôl ef fe allai clybiau osod rhwystrau i atal y rwber rhag gadael y caeau, a hidlo dŵr o gawodydd y safle er mwyn gallu tynnu'r darnau bach o'r llif.

"Mae gan y caeau yma rôl bwysig i'w chwarae, ynghyd â chaeau gwair, am nifer o resymau," meddai Mr Jones.

"Ond mae'n bwysig bod y bobl sy'n eu defnyddio yn deall y risgiau a'r niwed y gallan nhw achosi."

Mae pwyllgor amgylchedd y Cynulliad wedi dweud bod ganddo bryder am effaith y plastig o gaeau 3G ar yr amgylchedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithredu i fynd i'r afael ag effeithiau niweidiol plastig, a bod nifer o fesurau mewn lle i erlyn y rheiny sy'n achosi llygredd plastig.