Â鶹ԼÅÄ

Plastig yn 'un o broblemau mwyaf dynol-ryw heddiw'

  • Cyhoeddwyd
Iolo Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Iolo Williams fod lluniau o greaduriaid wedi marw o ganlyniad llyncu plastig yn torri ei galon.

Plastig ydy'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r ddynol-ryw, ar ôl cynhesu byd-eang, yn ôl y naturiaethwr a'r cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt Iolo Williams.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen , mae'n siarad am y niwed difrifol y mae'n ei achosi i fywyd gwyllt.

Mae trefnydd grwpiau gwirfoddol sy'n casglu sbwriel ar draethau yn dweud bod y broblem yn dal i gynyddu, ac mae Mr Williams yn annog pobl i ddefnyddio llai o blastig.

Ond dywedodd gweinidog Llywodraeth Cymru ei bod yn falch o'i record ar yr amgylchedd, a bod cynlluniau pellach i amddiffyn yr amgylchedd ar y gweill.

'Torri 'nghalon'

Ar y rhaglen, dywedodd Mr Williams: "Dwi'n cofio hanes y crwban môr mwya' i gael ei weld yn unrhyw le yn y byd - crwban lledr-gefn, gafodd ei olchi i fyny ar draeth Harlech yn 1988.

"Roedd hwnna'n pwyso bron i dunnell. Roedd yr anifail yna dros ganrif oed.

"Pam ei fod o wedi marw? Achos ei fod o wedi tagu ar fagiau plastig."

Mae nifer o anifeilaid yn llyncu bagiau plastig am eu bod yn edrych yn debyg i slefrod môr yn y dŵr, ac mae'r canlyniadau'n drasig, meddai Mr Williams.

"Mae hynna yn rhywbeth sy'n digwydd yn gyson rwan.

"Mae'n torri 'nghalon i bob tro dwi'n gweld llun neu ffilm o hugan neu forlo neu ddolffin neu forfil sydd wedi cael ei dagu neu ei rwymo mewn plastic - i feddwl bod hynny'n digwydd filoedd o weithiau bob dydd ar draws y byd.

"Mae hynny'n cael effaith andwyol ofnadwy, ac ar ôl cynhesu byd-eang, fyswn i'n dweud mai plastig ydi problem fwya' dynol-ryw erbyn heddiw."

Mae amcangyfrif bod 10m tunnell o blastig yn cyrraedd y moroedd bob blwyddyn, ac mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod hynny'n argyfwng i ecosystemau'r môr.

Ar y tir y mae llawer ohono'n cael ei ollwng, cyn i ran fawr ohono gael ei olchi i'r môr drwy afonydd, ffosydd a systemau carffosiaeth.

Unwaith y mae yno, dydy o ddim yn pydru, ond yn torri'n ddarnau mân.

Wrth iddo fynd i mewn i'r gadwyn fwyd - mae'n cael ei fwyta gan greaduriaid mân y môr, sydd yn eu tro yn cael eu bwyta gan bysgod. Mae 'na rybuddion ei fod yn mynd i mewn i'n cyrff ninnau, os ydym ni'n bwyta'r pysgod.

Fel rhan o'i waith hefo Cadw Cymru'n Daclus, mae Lee Oliver yn trefnu grwpiau gwirfoddol i fynd allan i gasglu sbwriel.

Dywedodd bod brwdfrydedd ac awydd i helpu wrth i fwy o bobl ddod yn ymwybodol o'r broblem.

Ond mae'ry broblem yn dal i gynyddu, a mwy o sbwriel i'w weld ar y traethau bob blwyddyn, meddai.

'Falch o record Cymru'

Defnyddio llai o blastig ac ailgylchu mwy ydy un o'r atebion. Ond mae arbenigwyr hefyd yn dweud bod angen i lywodraethau weithredu.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn wrth Manylu bod - hi oedd y gyntaf o lywodraethau'r DU i gyflwyno treth ar fagiau plastig - a bod ganddi fesurau pellach i'w warchod.

Mae'r rheiny'n cynnwys gosod targedau ailgylchu, gyda'r nod o wneud Cymru yn wlad ddi-wastraff.

Ffynhonnell y llun, Y Blaid Lafur
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mesurau pellach i adeiladu ar record amgylcheddol Llywodraeth Cymru, medd Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn

Mae gan awdurdodau lleol eu cynlluniau eu hunain i geisio lleihau gwastraff plastig.

Mae ar gyfer y sir, drwy geisio lleihau'r defnydd o blastig sydd ond yn cael ei ddefnyddio unwaith yn ei holl safleoedd ac ysgolion.

A Chyngor Conwy fydd y er mwyn arbed arian a gwneud i bobl ailgylchu mwy, er bod rhai yn gwrthwynebu'r cynllun yn chwyrn.

Angen gweithredu

Gydag arbengiwyr yn rhybuddio bod angen i'r rhan fwyaf ohonom ddefnyddio llawer llai o blastig i atal mwy o ddifrod i'r moroedd gan y domen sbwriel dan y tonnau, mae Mr Williams yn galw ar y llywodraeth i weithredu ar frys.

"Mae pawb yn gallu gweld bod plastig yn broblem a bod 'na ormod ohono," meddai.

"Mae rhywun yn mynd i siop i brynu nwyddau heddiw, tatws, moron, beth bynnag, maen nhw mewn plastig, bob un tro. Does dim rhaid iddi fod fel yna.

"A mae'n rhaid i'r llywodraeth arwain - Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Prydain ac Ewrop, mae'n rhaid iddyn nhw. Dy'n nhw ddim yn gwneud digon, dy'n nhw ddim yn gwneud hanner digon.

"Ma' rhaid i ni eu cael nhw i wneud rhywbeth a gwneud rhywbeth heddiw".