Â鶹ԼÅÄ

Cronfa leol Eisteddfod 2020 i ymestyn ei tharged

  • Cyhoeddwyd
Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020Ffynhonnell y llun, Elin Jones/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020

Mae Cronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 wedi cyrraedd ei tharged, ac wedi ymrwymo i godi mwy o arian tuag at y Brifwyl.

Mewn e-bost at gadeiryddion yr holl bwyllgorau lleol, mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones, yn cadarnhau bod y Gronfa Leol wedi cyrraedd ei tharged ariannol o £330,000 o fewn ychydig dros flwyddyn.

Fe gadarnhaodd Ms Jones hefyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu ymestyn y targed i £400,000 ac y byddai'r arian ychwanegol yn cael ei flaenoriaethu gan Swyddogion yr Eisteddfod ar gyfer cyfleusterau newydd.

Yn eu plith byddai Pentref Gwledig, er mwyn hyrwyddo cefn gwlad, Pentref Siarad Cymraeg i hwyluso profiad dysgwyr y Gymraeg, a darparu adnoddau eistedd, cysgodi a hamddena newydd ar y maes.

Ffynhonnell y llun, Cronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigioin 20
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 ei chyhoeddi'n swyddogol yn Aberteifi ym mis Mehefin

"Penderfynwyd y gallwn yn rhesymol anelu at godi £400,000 erbyn Awst 2020", meddai Elin Jones, "er mwyn sicrhau yr Eisteddfod mwyaf llwyddiannus posib."

Ychwanegodd: "Ni fyddwn yn gosod targedau newydd i ardaloedd lleol. Ein bwriad yn unig yw i annog pawb i ddal ati i gynnal digwyddiadau i hyrwyddo'r Eisteddfod ac i godi rhywfaint o arian hefyd wrth wneud hynny.

"Nid ydym am i'r bwrlwm a'r gweithgaredd ddod i ben a 'rydym yn awyddus iawn i ddenu diddordeb gymaint â phosib o bobol Ceredigion i ymddiddori a chyfrannu i'r Eisteddfod.

"Gallwn greu Eisteddfod i'w chofio yn Nhregaron 2020."

Bydd y Brifwyl yn ymweld â Thregaron rhwng 1-8 Awst 2020.