Â鶹ԼÅÄ

Ceredigion yn gwahodd yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
neuadd aberaeron yn llawn

Daeth dros 350 o bobl ynghyd i leisio barn yn Aberaeron nos Iau i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Geredigion yn 2020.

Er bod y cyfarfod cyhoeddus yn Aberaeron, fe fydd y brifwyl yn cael ei chynnal mewn caeau ar gyrion Tregaron.

Dydy'r Eisteddfod Genedlaethol ddim wedi bod yng Ngheredigion ers iddi ymweld ag Aberystwyth dros chwarter canrif yn ôl.

Yn ôl prif weithredwr yr Eisteddfod mae'r nifer ddaeth i'r cyfarfod er gwaethaf y tywydd stormus yn "brawf fod pobl eisiau creu Steddfod a hanner yng Ngheredigion".

Creu 'Eisteddfod a hanner'

Yn y cyfarfod cyhoeddus, cafodd yr enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau gwaith a chyllid eu hagor, a bydd modd enwebu tan 5 Hydref.

Cafodd ei ddatgelu bod Elin Jones, Llywydd y Cynulliad ac AC Ceredigion, wedi derbyn enwebiad ar gyfer swydd cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Bydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal 13 Hydref i bobl fwrw pleidlais i ethol swyddogion pwyllgorau amrywiol.

Ni chafodd y targed ariannol ar gyfer y gronfa leol ei gyhoeddi yn ystod y cyfarfod, ond fe ddywedodd Elen Elis, trefnydd yr ŵyl, ei bod hi'n costio "pum miliwn o bunnoedd i redeg Eisteddfod Genedlaethol".

Disgrifiad,

Barn rhai o drigolion Tregaron

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Rwy'n ffyddiog tu hwnt, roedd natur yn ein herbyn ni heno ond oedd bron i 400 yma a hyn yn brawf bod pobl Ceredigion eisiau creu Steddfod a hanner ar gyfer 2020."

Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, ei bod hi am weld pobl Ceredigion yn gwthio'r ffiniau.

"Dwi'n credu fod yr elfen gŵyl sydd o amgylch y Steddfod wedi datblygu yn enwedig yng Nghaerdydd eleni, a fyddwn i'n hoffi bod ardal wledig fel Ceredigion yn gallu dangos ein bod ni hefyd yn gallu gwthio'r ffiniau."

Digon o lety?

Cafodd diffyg darpariaeth llety yn Nhregaron ei gwestiynu yn ystod y cyfarfod.

Wrth arddangos map o'r caeau lle fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal, cafodd ei bwysleisio y bydd digon o le i'r maes, i'r maes carafanau a'r meysydd parcio.

Yn ôl Ffion Medi, sy'n byw yn Nhregaron, mae "angen" yr Eisteddfod ar Dregaron.

Dywedodd: "Mae'r dref wedi cael cwpl o flynyddoedd anodd yn ddiweddar gyda thoriadau ac ati, ond mae cael rhywbeth fel hyn, yn mynd i roi hwb enfawr i economi'r ardal."

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 1-8 Awst 2020.