Â鶹ԼÅÄ

Colled o £159,000 wedi tywydd garw Prifwyl Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
Cawodydd glaw yn Eisteddfod Llanrwst
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid canslo ac aildrefnu digwyddiadau am resymau iechyd a diogelwch oherwydd tywydd gwael ddiwedd wythnos Eisteddfod eleni

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau bod Prifwyl eleni yn Llanrwst wedi gwneud colled ariannol o £158,982.

Roedd yna gostau ychwanegol wedi i dywydd garw orfodi'r trefnwyr i gau lleoliad ieuenctid Maes B ddeuddydd yn gynnar a chanslo neu aildrefnu nifer o ddigwyddiadau.

Cafodd hynny, a phenderfyniad "i dalu'r artistiaid i gyd ac ad-dalu'r rheini oedd wedi prynu tocynnau ar gyfer y penwythnos ym Maes B... effaith fawr ar lif ariannol yr ŵyl" ac "ni fu modd i Eisteddfod Sir Conwy adael gweddill fel roedd y trefnwyr wedi'i obeithio".

Bydd yr Eisteddfod yn comisiynu adroddiad annibynnol ar sut y penderfynwyd ar leoliad gwreiddiol y brifwyl yn Llanrwst. Bu'n rhaid ei symud i gyrion y dref oherwydd pryderon am lifogydd.

Disgrifiad,

Mae'n fwriad i gwblhau'r adroddiad cyn diwedd y gwanwyn, medd Ashok Ahir

Wrth edrych yn ôl ar ŵyl eleni mewn cyfarfod yn Aberystwyth, dywedodd Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir: "'Does neb eisiau cyhoeddi manylion colled ar ôl gŵyl a fu'n llwyddiant mewn cymaint o ffyrdd, ond dyna mae'n rhaid i ni'i wneud heddiw.

"Do, bu'n rhaid gwario ychydig yn fwy ar y Maes ar ddiwedd yr wythnos er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch ein hymwelwyr, ac er mwyn sicrhau bod meysydd parcio ar gael i'w defnyddio.

"Bu'n rhaid i nifer o wyliau ar draws Prydain gau neu gael eu canslo oherwydd y tywydd, ond rwy'n falch o ddweud bod ein blaengynllunio wedi ein galluogi i wneud yn siŵr bod modd cadw'r Maes ei hun ar agor.

Disgrifiad o’r llun,

Pobl ifanc yn gadael Maes B wedi gorchymyn i wagio'r safle oherwydd y gwynt a'r glaw

"A gall neb anghytuno gyda'r penderfyniad anodd y bu'n rhaid i ni fel Bwrdd ei gymryd yn dilyn trafodaethau gyda'r gwasanaethau brys a'n partneriaid, i gau Maes B. Roedd rhagolygon y tywydd ddiwedd yr wythnos yn wirioneddol enbyd, a 'doedd dim dewis arall ond canslo Maes B."

Ychwanegodd bod hi'n "bwysig nad yw llwyddiant Eisteddfod Sir Conwy'n mynd yn angof oherwydd y tywydd gwael ar ddiwedd yr wythnos".

'Dim pasio'r golled i eisteddfod Ceredigion'

Fe wnaeth yr Eisteddfod golled o £290,000 y llynedd, er i'r trefnwyr amcangyfrif fod ei chynnal mewn ardal agored ym Mae Caerdydd wedi denu hanner miliwn o ymwelwyr.

Dywedodd Mr Ahir ddydd Sadwrn: "Wrth gwrs, gall gŵyl fel yr Eisteddfod ddim fforddio gorfod wynebu colled fel hyn, ac felly, ein blaenoriaeth gorfforaethol dros y blynyddoedd nesaf fydd sicrhau ein bod yn codi arian er mwyn rhoi hwb i'n cronfeydd wrth gefn yn dilyn y canlyniad y bore 'ma.

"Mae'n bwysig ein bod yn atgoffa pawb na fydd y golled hon yn cael ei chario drosodd i Eisteddfod Ceredigion na phrifwyl LlÅ·n ac Eifionydd.

"Bydd ein cronfeydd canolog yn ysgwyddo'r baich, heb ddisgwyl i eisteddfodau'r dyfodol dalu am effaith tywydd gwael Sir Conwy."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna golled ariannol sylweddol y llynedd hefyd wedi Prifwyl arbrofol agored Bae Caerdydd

Dywed y trefnwyr bod y llwyddiannau'n cynnwys "niferoedd ardderchog" o gystadleuwyr, Pafiliwn oedd "yn llawn am ran helaeth o'r wythnos" a chystadlaethau corawl a fydd "yn cael eu cofio fel rhai o oreuon y blynyddoedd diwethaf".

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi cael "penwythnos cyntaf rhagorol, wrth i bobl heidio i Lanrwst o bob cornel o Gymru a thu hwnt.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tywydd effaith ddifrifol ar gyflwr rhai o feysydd parcio'r Eisteddfod

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Conwy, Trystan Lewis bod rhaid diolch pobl Sir Conwy am eu gwaith cyn ac yn ystod y Brifwyl, ac am godi bron i £400,000 i'r gronfa leol.

"Chi oedd gwraidd llwyddiant ein Heisteddfod ni, ac ni fydd y newyddion heddiw'n pylu dim ar y gwaith a'r llwyddiant lleol a fu'n gymaint rhan o'r ŵyl," meddai.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Mae llawer wedi dweud bod Eisteddfod Sir Conwy yn wythnos gofiadwy.

Efallai bod y tywydd wedi trechu Maes B ar ddiwedd yr wythnos, ond ni threchwyd yr ŵyl ei hun.

Mae hithau hefyd wedi diolch i bawb "a weithiodd mor galed drwy gydol yr wythnos i sicrhau bod modd i Eisteddfod Sir Conwy barhau hyd at y nos Sadwrn olaf."