Â鶹ԼÅÄ

Symud perfformiad Dafydd Iwan o'r maes i'r pafiliwn

  • Cyhoeddwyd
tywydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu cawodydd ar faes yr Eisteddfod nos Iau a fore Gwener

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd perfformiad Dafydd Iwan ar y maes nos Sadwrn yn symud o Lwyfan y Maes i'r pafiliwn wedi adolygiad yn sgil rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd.

Roedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Trystan Lewis, wedi dweud ben bore Sadwrn y byddai'r perfformiad "yn digwydd" mewn rhyw fodd a bod asesiadau'n parhau.

Bu'n rhaid defnyddio tractorau brynhawn Sadwrn i dynnu ceir a charafanau oedd wedi mynd yn sownd, ac roedd gofyn i Eisteddfodwyr ddilyn cyfarwyddiadau parcio newydd gan fod rhai o'r prif feysydd parcio bellach ar gau.

Fe wnaeth trefnwyr yr ŵyl gyhoeddi ddydd Gwener bod Maes B wedi ei ganslo am weddill y penwythnos oherwydd y rhagolygon tywydd.

Cau meysydd parcio

Fe wnaeth arlwy Llwyfan y Maes barhau fel yr arfer nos Wener, gyda Band Pres Llareggub yn cloi'r noson.

Ond yn dilyn y tywydd garw dros nos fe wnaeth prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses gyhoeddi ddydd Sadwrn y byddai perfformiad olaf nos Sadwrn yn symud i'r Pafiliwn.

Mae disgwyl i Dafydd Iwan fod yn chwarae ar lwyfan y Pafiliwn tua 20:00 - yn hytrach na 21:00 fel yr oedd ar yr amserlen wreiddiol.

Bydd perfformiadau yn parhau ar Lwyfan y Maes fel y drefn arferol hyd nes hynny, oni bai am Maffia sydd wedi gorfod tynnu yn ôl.

Disgrifiad,

Roedd dŵr ar rai o'r ffyrdd o gwmpas Llanrwst ddydd Sadwrn

Dim ond lle i 1,800 fydd yn y Pafiliwn fodd bynnag, ac felly cyntaf i'r felin fydd hi o ran seddi.

Mae'r trefnwyr hefyd wedi symud arlwy'r TÅ· Gwerin i'r Babell Ddawns, a Chaffi Maes B i stondin Shwmae Sumae.

Yn gynharach dywedodd Trystan Lewis y byddai'r perfformiad yn mynd yn ei flaen mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

"Mi fydd o'n digwydd - 'dan ni isio gorffen yr Eisteddfod ar nodyn uchel a dwi'n siŵr y bydd Dafydd Iwan yn gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan sydd i fod i gloi'r nos Sadwrn ar Lwyfan y Maes

Mae'r Eisteddfod bellach wedi cyhoeddi bod y prif faes parcio ger y Maes bellach wedi'i chau yn gyfan gwbl, yn ogystal â'r maes parcio ger Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst.

Bydd ceir yn cael eu cyfeirio at feysydd parcio gwahanol, ac mae'r trefnwyr wedi gofyn i deithwyr ddilyn yr arwyddion newydd.

Mae'r maes parcio anabl ger y maes hefyd wedi cau, a bydd teithwyr oedd yn defnyddio hwnnw yn cael eu cyfeirio i faes parcio arall cyfagos ble bydd bysus gwennol yn eu cludo i'r maes.

Cyfiawnhau cau Maes B

Wrth siarad fore Sadwrn fe wnaeth Mr Lewis hefyd ddweud bod y gwynt a'r glaw dros nos wedi cyfiawnhau'r penderfyniad i gau Maes B.

"Y prif beth oedd lles y bobl ifanc ym Maes B," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Parhau mae'r apêl gan drefnwyr i bobl ddilyn y cyfarwyddiadau parcio wrth gyrraedd y maes

"Roedd hi'n bwrw glaw yn drwm ac roedd 'na wyntoedd cryfion drwy'r nos oedd yn golygu nad oedd y babell ym Maes B yn saff.

"Tasai unrhyw beth wedi digwydd fydden ni ddim wedi gallu byw gyda'n hunain, felly roedd rhaid i ni gymryd y penderfyniad yna.

"Mae wedi bod yn anffodus a siomedig iawn i'r bobl ifanc 'ma, ond diogelwch oedd ein prif flaenoriaeth ni, ac felly dyna oedd y penderfyniad cywir."