Â鶹ԼÅÄ

Cytundeb Brexit: 'Bydd ffiniau newydd yn niweidio Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Lorïau ar ddec fferi Stena Line o Ddulyn i Gaergybi a baner yr UE
Disgrifiad o’r llun,

Mae 400,000 o lorïau'r cludo nwyddau rhwng porthladdoedd Caergybi a Dulyn bob blwyddyn

Byddai cytundeb Brexit newydd sydd wedi ei gytuno rhwng cynrychiolwyr y DU a'r UE yn "creu ffiniau newydd a fyddai'n gwneud Cymru'n dlotach", yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Mae Plaid Cymru hefyd yn rhybuddio y byddai'n cael effaith "ddinistriol eithriadol" ar economi Cymru.

Dywed Plaid Cymru bod dadansoddiad cychwynnol yn dangos y byddai "ffin i lawr Môr Iwerddon" - a fyddai'n golygu gwirio tollau nwyddau rhwng porthladdoedd Cymru ac ynys Iwerddon - yn niweidiol i Gymru.

Caergybi yw ail borthladd prysuraf y DU gyda 400,000 o lorïau a faniau a 500,000 o geir yn teithio trwyddo, gydag ychydig iawn o oedi dan y drefn bresennol.

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, Boris Johnson neges ar Twitter fore Iau: "Mae gyda ni gytundeb newydd gwych sy'n adennill rheolaeth."

Bydd gofyn i arweinwyr Ewropeaidd ym Mrwsel gymeradwyo'r cytundeb ddydd Iau, ond mae angen sicrhau cefnogaeth seneddau Ewrop a San Steffan hefyd.

Bydd ASau'n cael cyfle i drafod y cytundeb mewn sesiwn arbennig yn Nhy'r Cyffredin ddydd Sadwrn, ond mae Syr Oliver Letwin - sy'n gwrthwynebu Brexit digytundeb - yn ceisio sicrhau mwy o amser na'r ddadl 90 munud y mae Arweinydd y TÅ·, Jacob Rees Mogg wedi awgrymu, a chyfle i ASau gynnig gwelliannau.

'Moment fawr' i atal Brexit digytundeb

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r cytundeb yma'n gwneud dim i warchod buddiannau Cymru, heb sôn am warchod ein heconomi a swyddi.

"Byddai'n ein tynnu o'r farchnad sengl a'r undeb dollau a chreu ffiniau newydd a fyddai'n gwneud Cymru'n dlotach."

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts yn galw ar weinidogion y DU i ryddhau asesiadau effeithiau'r "cytundeb honedig" fel bod ASau'n gallu "gweld effeithiau'r hyn fyddan nhw'n pleidleisio arno".

"Bydd y cytundeb yma'n diffinio ein heconomi, cymdeithas a dyfodol ein plant am genedlaethau," meddai.

"Byddai pleidleisio arno'n ddall i unrhyw syniad o'i effaith yn anghyfrifol iawn. Os, fel mae'r si'n awgrymu, fydd ffin yn cael ei greu ym Môr Iwerddon, bydd economi Cymru'n cael ergyd sylweddol, yn enwedig mewn llefydd fel Caergybi."

'Sicrwydd sydd ei angen'

Ond yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns mae'r cytundeb yn dod â "sicrwydd y mae busnesau ei daer angen".

Mae'n apelio am gefnogaeth ASau er mwyn symud ymlaen a chanolbwyntio ar "gynlluniau Llywodraeth y DU am Gymru uchelgeisiol fel rhan o Ddeyrnas Unedig gref".

Mae'r cyn-Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol, Stephen Crabb, wedi annog ASau Llafur sy'n dweud eu bod eisiau gwireddu Brexit i gefnogi'r cytundeb.

Ysgrifennodd Mr Crabb, AS Preseli Penfro, ar Twitter bod hwn "yn foment mawr" i ASau Llafur sy'n gwrthwynebu Brexit digytundeb oherwydd "mae yna gytundeb i bleidleisio drosto".

Mae plaid Unoliaethwyr Democrataidd Gogledd Iwerddon, y DUP, wedi rhybuddio nad yw'n bosib iddyn nhw gefnogi'r cytundeb fel ag y mae - cyn ac ar ôl neges Mr Johnson.

Dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod Mr Johnson "yn yr un sefyllfa yn union â Theresa May", gyda'r DUP "yn dal gweddill y DU yn wystl".

Ìý