Â鶹ԼÅÄ

Llywodaethau Cymru a'r DU yn 'siarad yn amlach' ar Brexit

  • Cyhoeddwyd
Stephen BarclayFfynhonnell y llun, HoC

Mae un o weinidogion Llywodraeth y DU wedi mynnu eu bod bellach yn siarad yn amlach â Llywodraeth Cymru pan mae'n dod at drafodaethau Brexit.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay bod "llawer mwy o dryloywder" bellach yn y sgyrsiau gyda'r sefydliadau datganoledig.

Ond fe gyfaddefodd nad oedd wedi siarad gyda'i weinidog cyfatebol yng Nghymru, Jeremy Miles, yr wythnos hon.

Daw hynny wrth i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson barhau i geisio dod i gytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd cyn i'r aelodau gyfarfod ym Mrwsel ddydd Iau.

Mae'r trefniadau ar y ffin ar ynys Iwerddon yn parhau i fod yn un o'r prif bynciau trafod, gyda chynigion diweddaraf y prif weinidog yn awgrymu y gallai Gogledd Iwerddon gael ei thrin yn wahanol i weddill y DU ar ôl Brexit.

Yn gynharach datgelodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford nad oedd wedi trafod Brexit gyda Mr Johnson "yn y mis diwethaf".

Wrth gael ei holi gan ASau ddydd Mercher dywedodd Mr Barclay: "Un o'r pethau rydyn ni wedi bod yn ei wneud wrth i ni gyfathrebu'n amlach gyda llywodraethau Cymru a'r Alban yw newid y ffordd mae swyddogion yn cysylltu er mwyn gwneud pethau'n llawer mwy tryloyw o ran gwybodaeth."

Ychwanegodd: "Dydw i ddim wedi siarad gyda Jeremy [Miles] na Mike [Russell, y gweinidog â chyfrifoldeb dros Brexit Yr Alban] yr wythnos yma.

"Fe wnaeth un o'r gweinidogion o fewn Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd fynd fyny i Gaeredin i gyfarfod â Llywodraeth Yr Alban a Llywodraeth Cymru ddydd Iau diwethaf."