Â鶹ԼÅÄ

Rygbi merched: Cyhoeddi 14 heb gap yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rachel Taylor,Rowland Phillips a Liza BurgessFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rachel Taylor (chwith) fydd yn hyfforddi'r Barbariaid gyda Liza Burgess (dde) yn hyfforddi Crawshay's pan fydd Cymru yn eu hwynebu dan reolaeth Rowland Phillips

Mae hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru wedi cyhoeddi 14 chwaraewr sydd eto i ennill cap rhyngwladol yn y garfan ar gyfer Cyfres yr Hydref.

Bydd tîm Rowland Phillips yn teithio i Sbaen, Iwerddon a'r Alban ac yn wynebu Crawshay XV gartref cyn gêm yn erbyn y Barbariaid yng Nghaerdydd ar 30 Tachwedd.

Dywedodd Rowland Phillips: "Rydym wedi sicrhau ein lle yng Nghwpan y Byd 2021 yn barod, ein nod yw adeiladu carfan o chwaraewyr ifanc."

"Mae Cyfres yr Hydref yn gyfle arbennig i wneud hynny," meddai.

Mae'r gêm yn erbyn y Barbariaid yn cyd fynd â gêm y dynion yn Stadiwm Principality.

Dyma fydd gêm gyntaf Wayne Pivac fel hyfforddwr dynion Cymru wrth i Warren Gatland gymryd gofal o dîm y Barbariaid.

Carfan merched Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref (*chwaraewr sydd heb ennill cap)

Blaenwyr: Alex Callender (Scarlets), Gwen Crabb (Gweilch), Amy Evans (Gweilch), Georgia Evans* (Gleision), Abbie Fleming* (Gleision), Cerys Hale (Gleision), Sioned Harries (Scarlets), Cara Hope (Gweilch), Jordan Hopkins* (Gleision), Gwenllian Jenkins* (Scarlets), Natalia John (Gweilch), Manon Johnes (Gleision), Kelsey Jones (Gweilch), Bethan Lewis (Scarlets), Siwan Lillicrap (Gweilch), Robyn Lock* (Gweilch), Carys Phillips (Gweilch), Gwenllian Pyrs (RGC)

Olwyr: Keira Bevan, (Gweilch), Angharad Desmet* (Scarlets), Alecs Donovan (Gweilch), Lleucu George (Scarlets), Courtney Keight* (Gweilch), Kerin Lake (Gweilch), Caitlin Lewis* (Scarlets), Ffion Lewis (Scarlets), Rebekah O'Loughlin* (Gleision), Kayleigh Powell* (Gweilch), Paige Randall* (Gleision), Catherine Richards* (Gleision), Lauren Smyth (Gweilch), Elinor Snowsill (Gweilch), Niamh Terry* (Gweilch), Megan Webb* (Gleision), Robyn Wilkins (Gleision)

Gemau Cymru:

3 Tachwedd: Sbaen, Madrid;

10 Tachwedd: Iwerddon, Dulyn;

17 Tachwedd: Yr Alban, Glasgow;

23 Tachwedd: Crawshay's, Glyn Ebwy;

30 Tachwedd: Barbariaid, Caerdydd.