Gŵyl newydd i 'ddeffro' ymwybyddiaeth o hanes Cymru

Ffynhonnell y llun, Ceidiog Hughes

Disgrifiad o'r llun, Mae ailgread o lys Owain Glyndŵr wedi'i greu gan ddefnyddio technoleg rithwir
  • Awdur, Siôn Pennar
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Amcan gŵyl newydd yng Nghorwen dros y penwythnos ydy "deffro" ymwybyddiaeth pobl o hanes Cymru.

Ymhlith atyniadau Gŵyl y Fflam mae ailgread o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, Powys.

Gan ddefnyddio technoleg rithwir, bydd cyfle i bobl grwydro'r llys fel yr oedd yng nghyfnod y tywysog.

Mae'r ŵyl, yn ôl un o'r trefnwyr, hefyd yn ffordd o geisio "bywiogi" tref Corwen.

Er mai yn Sycharth ger Llansilin ym Mhowys oedd llys enwocaf Glyndŵr, roedd dalgylch Corwen yn gadarnle iddo.

Disgrifiad o'r fideo, Ai dyma sut oedd llys Owain Glyndŵr yn edrych?

"Roedd o'n un o feibion tywysogion Powys oedd yn yr ardal yma," meddai Dylan Jones, un o drefnwyr Gŵyl y Fflam.

"Cafodd ei goroni ddim yn bell o 'ma, rhyw ddwy filltir i ffwrdd, yn 1400 - a dyna pryd 'ddaru'r helynt ddechrau."

Aeth Owain Glyndŵr ymlaen i arwain gwrthryfel yn erbyn rheolaeth coron Lloegr a rhai o arglwyddi'r Gororau am tua degawd.

'Arwr cenedlaethol'

Heddiw, mae cerflun amlwg ohono yng nghanol Corwen, ond mae lle i godi ymwybyddiaeth o'r hanes, yn ôl Gwyneth Ellis, sydd hefyd ymhlith y trefnwyr.

"Yn amlwg, mae 'na lawer o bobl yn yr ardal sy'n ymfalchïo yn yr hanes, ond mae 'na lawer o bobl sydd ddim yn gwybod yr hanes," meddai.

"A dwi'n meddwl bod rhywbeth fel hyn yn mynd i ddeffro'r hanes ym meddyliau pawb."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gwyneth Ellis bod angen i Gorwen gymryd mantais o'r cysylltiad ag Owain Glyndŵr

Ychwanegodd bod angen i Gorwen gymryd mantais o'r cysylltiad â'r tywysog.

"Mae angen i drefi ffeindio rhywbeth i ddenu pobl i fewn," meddai Ms Ellis.

"Yng Nghorwen, mae gennym ni'r arwr cenedlaethol 'ma, felly mae'n bwysig ein bod ni'n ei ddefnyddio i fywiogi canol y dre'."

Mae'r ailgread o'r llys yn Sycharth wedi ei ddatblygu gan gwmni Vivid Virtual Reality, ac mae wedi ei seilio'n rhannol ar ddisgrifiad cyfoes y bardd Iolo Goch o'r llys.

Ymhlith yr atyniadau eraill yng Ngŵyl y Fflam, sy'n cael ei chynnal ar 14 a 15 Medi, mae darlithoedd, darlleniadau ac efelychiadau o frwydrau canoloesol.