Â鶹ԼÅÄ

Sioeau'n 'brawf' o'r angen i ddysgu hanes Cymru i blant

  • Cyhoeddwyd
Mewn CymeriadFfynhonnell y llun, Mewn Cymeriad

Mae cwmni gafodd ei sefydlu i addysgu plant cynradd am hanes Cymru yn mynd o nerth i nerth wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn bump oed.

Ym mis Medi 2013 cafodd sioe newydd ei pherfformio am y tro cyntaf wrth i'r Arglwydd Rhys - Arwr y Deheubarth - ddiddanu disgyblion Ysgol Bro Brynach yn Sir Gâr.

Dyma oedd dechrau'r daith i Eleri Twynog Davies, wrth iddi sefydlu Mewn Cymeriad - sioeau un dyn neu ddynes sy'n cyflwyno hanes Cymru i blant oed cynradd.

Mae'r cwmni wedi datblygu'n sylweddol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, gyda 20 o sioeau bellach ym mhortffolio'r cwmni a thua chant o berfformiadau'n cael eu cynnal pob mis.

Mae Ms Davies yn amcangyfrif bod tua 100,000 o blant wedi gweld eu sioeau bellach.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Eleri Twynog Davies sefydlu cwmni Mewn Cymeriad yn 2013

Yn ôl Ms Davies, mae'r ymateb wedi bod yn rhagorol, ac yn profi bod gwir angen y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion cynradd.

Dywedodd ei bod hi wedi gadaelyr ysgol ar ôl astudio Hanes Safon Uwch heb lawer o wybodaeth am hanes Cymru.

Roedd hi'n teimlo "bod y bwlch yn dal yna" ar y pryd, ac iddi sefydlu Mewn Cymeriad oherwydd hynny.

Mae'n teimlo bellach iddi brofi'r bwlch hynny oherwydd "y galw sydd wedi bod am y sioeau".

Ffynhonnell y llun, Mewn Cymeriad
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni'n cynnal sioeau mewn ysgolon cynradd ledled Cymru

Yn ôl un o'r actorion sy'n llwyfannu'r sioeau, Anwen Carlisle, mae'n "brofiad hollol wahanol i fod ar lwyfan".

"Chi yng nghanol y plant, chi'n gofyn i'r plant ymateb, heb sôn am y cymryd rhan," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n teithio i bob cwr o Gymru, gan ymweld â llefydd anghysbell, lle nad oes theatr.

"Mae'r plant yma'n medru cael y profiad theatr, fel mae plant mewn trefi a dinasoedd yn cael yn amlach o bosib," meddai Ms Carlisle.

'Dehongliad unigryw a byw'

Yn ogystal â'r Ail Ryfel Byd a'r Arglwydd Rhys, gall plant ddysgu am Buddug, Brenhines y Brwydro, Barti Ddu, Cnaf Cyfrwys y Caribi, Hedd Wyn, Harri Tudur a mwy.

"Mae'r sioeau yn cynnig dehongliad unigryw a byw o'n hanes ynghyd â'r cyfle i ryngweithio" meddai Ms Davies.

"Mae'r cyfuniad o ffaith a chwarae, dychymyg a rhesymu yn hanfodol."

Yn 2015, comisiynwyd cwricwlwm newydd yn dilyn Adroddiad Donaldson i ddyfodol addysg yng Nghymru.

Mae sioeau Mewn Cymeriad yn cyd-fynd ag amcanion craidd y cwricwlwm hwnnw, gyda'r elfen o ddysgu trwy brofiad yn rhan ganolog ohonynt.