Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Yr actor Simon Watts

  • Cyhoeddwyd
Simon Watts

Yr actor Simon Watts sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddo gael ei enwebu gan Dion Davies yr wythnos diwethaf.

Yn adnabyddus ers blynyddoedd fel Gethin ar Pobol y Cwm, mae nawr yn fwy adnabyddus i blant Cymru fel y tad yn y gyfres boblogaidd Deian a Loli. Mae hefyd yn ymddangos yn y gyfres ddrama, Pili Pala.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Syrthio o'r gadair uchel pan o'n i'n ddeunaw mis oed a thorri 'mhen ar agor ar ddrws gwydr y gegin.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Glynis Barber, sef Makepeace o Dempsey and Makepeace, y gyfres dditectif ar y teledu yn yr 80au (bradychu fy oedran yn llwyr fan hyn).

Ffynhonnell y llun, Fox Photos
Disgrifiad o’r llun,

Glynis Barber ac Michael Brandon oedd sêr y gyfres 'Dempsey and Makepeace'

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Canlyniadau difrifol y weithred o achub cath liw nos (oedd wedi cael ei bwrw lawr ar y stryd nid nepell o far Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod Caerfyrddin) pan o'n i'n 18 oed.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Tra'n darllen drama newydd Dafydd James - mae e'n ffrind ac yn ddramodydd hynod dalentog.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod i restru fan hyn yn anffodus. Ocê, gewch chi un… prynu gwin coch drud.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mynydd Du, De Orllewin Cymru.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhriodas yn 2013 mewn ffermdy clyd ddim yn bell o Gaerdydd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Plentynaidd, optimistaidd a thaclus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Wuthering Heights, Emily Brontë.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

John Hurt - actor da o'dd yn 'nabod ei win coch.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Hurt yrfa toreithiog fel actor llwyfan, teledu a sgrin fawr. Bu farw yn 2017

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n dihuno yn oriau mân y bore i wylio pobol yn cwffio mewn cawell yn yr UFC (Ultimate Fighting Championship) - a dwi heb witho mas yn iawn y rheswm pam dwi'n licio 'neud.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ma' sawl peth eitha' rhamantus 'sen i'n licio 'neud gyda' ngwraig a mhlant i - ond i fod yn blwmp ac yn blaen am ennyd... neidio mas o awyren.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Fishing For A Dream gan Turin Brakes - mae'n fy atgoffa i o fod yn fy ugeiniau cynnar a'r teimlad fod bywyd yn llawn posibiliadau.

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon yn actio ar Deian a Loli gyda'i wraig, Rhian Blythe

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Wystrys. Stêc. Tarten Siocled Yotam Ottolenghi (gyda honeycomb brittle a hufen iâ).

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Melania Trump, fel mod i'n gallu coginio swper ola' i'w gŵr hi.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Andrew Teilo

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw