Ateb y Galw: Yr actor a chyflwynydd Aeron Pughe

Yr actor a chyflwynydd Aeron Pughe sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddo gael ei enwebu gan Dyfrig Evans yr wythnos diwethaf.

Mae Aeron wedi teithio'r byd yn cwrdd â phobl newydd yn y cyfresi Wil ac Aeron ar S4C, ac mae wedi cyflwyno ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2. Ond mae fwyaf adnabyddus am ddiddanu eich plant fel y cymeriad BenDant ar wasanaeth Cyw!

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n meddwl mai'r atgof cynta' sgen i ydi yn Ysgol Feithrin Glan Twymyn - criw o ffrindiau yn ymladd am y tractors. O'dd 'na griw mawr o fechgyn a merched ffermydd ac o'dd pawb yn ymladd am y tractor gorau bob dydd. O'n i byth yn ennill y tractor - o'n i'n un o'r rhai lleia'.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Yr atgofion cynta' sgen i o fod â diddordeb mewn merched oedd watsho'r The A-Team a The Dukes of Hazzard, a'r merched oedd yn rheiny. Pan 'nes i ddechra' cymryd diddordeb mewn cerddoriaeth, 'nath yr opsiynau agor!

Ffynhonnell y llun, Silver Screen Collection

Disgrifiad o'r llun, Criw The Dukes of Hazzard - gwnaeth Daisy argraff ar Aeron pan oedd o'n ifanc

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gwneud rihyrsals ar gyfer sioe dathlu 70 mlynedd y Ffermwyr Ifanc, ac o'n i mewn sgets lle o'n i'n gwisgo lederhosen, ac o'dd fy mrawd a'r criw yn tynnu'r lederhosen i lawr.

Ond cawson nhw afael ar fy nhrôns i hefyd, a ddaeth y cyfan i lawr - o flaen y panel cyfarwyddwyr. Fues i'n eitha' slic yn adfer y broblem, ond dwi'n siŵr fod yna rywun wedi cael llond llygad...

Os nad hwnnw, un arall oedd ar fy stag dw i pan 'nath Wil fy ffrind wneud i mi wisgo gwisg nofio ei fam-yng-nghyfraith drwy faes awyr Lerpwl ac ar yr awyren.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n un drwg am grïo ar bethau hapus - fel rhyw acceptance speech neu rhywun yn llwyddo mewn rhywbeth yn annisgwyl.

Ond be' sy'n fy nghael i bob tro ydi pan dwi 'di cael diwrnod hir yn y gwaith neu wedi blino, a dwi'n dod adre' a mae Casi y ferch yn rhoi cwtsh a d'eud 'caru ti, Dad'.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae gen i lwyth ohonyn nhw. Mae gen i habit pan dwi'n gyrru - dwi wedi colli dant a dwi'n un drwg am roi fy mys yn y twll a chnoi arno fo, os dwi'n nyrfys ac ar frys. A dwi'n ofnadwy o anrhefnus efo gwaith papur, a ma'n gyrru ngwraig i'n nyts.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Does unman yn debyg i gartre'... Darowen ydi enw'r pentre' agosa at y ffarm lle ges i'n magu, a tu ôl i'r pentre' mae mynydd Fron Goch. Fyny ar dop hwnnw, allwch chi weld tir y ffarm i gyd, a gweld adre, ac i lawr am Fachynlleth. Ar ddiwrnod clir, mae o'r lle gora' yn y byd i mi.

Dydd Calan bob blwyddyn, 'dan ni'n mynd fyny i hela. Os oes 'na hangover ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, mae o'n clirio'r pen ac yn gosod y stamp am y flwyddyn.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi wedi cael cannoedd o nosweithiau gwyllt a gwirion dros y blynyddoedd. Dyddiau coleg, sawl stag dw, trip rygbi, steddfodau, sioeau a llawer iawn mwy ond un sy'n aros yn y cof yn ddiweddar ydi noson olaf trip Cor Meibion Machynlleth i Ganada ym mis Ebrill.

Pawb efo'i gilydd ar crôl cyn diwedd y nos mewn bar karaoke Gwyddelig. Canu, chicken wings speislyd, cwrw a ffrindie gore yn joio! A'r tenor Aled Wyn Davies yn chwalu'r mesurydd sain efo'i fersiwn o Nessun Dorma!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Anhrefnus, gofidus a hunanfeirniadol.

Ffynhonnell y llun, Gijsbert Hanekroot

Disgrifiad o'r llun, Mae Aeron yn ffan mawr o Johnny Cash

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi'n licio pethau am y maffia, a dwi'n ffan o gerddoriaeth canu gwlad a Johnny Cash. Felly mae gen i lot o llyfrau am deuluoedd y maffia, a llyfrau a bywgraffiadau Johnny Cash, a fy hoff ffilmiau ydi Goodfellas a Walk the Line.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Cwestiwn anodd. Dwin licio cael peint a sgwrs efo unrhywun, boed yn ffrind neu yn berson randym wrth y bar a siarad am bethe hollol annisgwyl weithie, ond dwi yn ffan mawr o'r canwrs gwlad a'r rebels old school fel Johnny Cash, Waylon Jennings, George Jones ayyb. Felly mi fyse rhannu gwydryn neu ddau efo'r criw yna yn eu hanterth wedi bod yn agoriad llygad!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae fy nhraed i'n drewi (er mae pawb sy'n nabod fi yn gwybod hyn...) Sgidie BenDant ydi'r bai!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael fy ffrindiau i draw am barti, a g'neud yn siŵr mod i'n rhoi cwtsh mawr i mhlant a'n holl deulu.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Fy hoff fand i ydi Old Crow Medicine Show - maen nhw'n fand bluegrass o America. Aeth y wraig a fi allan i Nashville ar ein mis mêl, a gawson ni docynnau i'w gweld nhw ar Nos Calan yn theatr Ryman. O'dd honno'n noson sbesial, a byth ers hynny dwi'n hoffi'r gân Wagon Wheel. Honna 'di nghân karaoke fi ar y funud.

Disgrifiad o'r llun, BenDant druan - mae'n cael y bai am draed drewllyd Aeron, am ryw reswm...

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs, heb os nac onibai, yw stecen - mae pobl yn tynnu nghoes i, achos dim bwys be' arall sydd ar y fwydlen, stecen fydd hi. Dwi'n reit draddodiadol efo pwdin, dwi'n ffan o bwdin reis a phwdin bara cartre'. 'Swn i'n gorfod mynd am starter, 'swn i'n mynd am rywbeth fel king prawns, ond fel arfer dwi'n cadw lle i'r stecen a'r pwdin!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Mae 'na sawl un yn dod i'r meddwl ond am ddiwrnod fyswn ni'n licio bod yn Bruce Springsteen. Dwi'n y car yn aml oherwydd fy ngwaith a dwi'n gwrando lot ar ei ganeuon a mae'r hanesion a'i ddawn o dd'eud stori o safbwynt y bachgen ifanc difreintiedig a'i freuddwyd fawr o lwyddo yn y byd mawr, mor bwerus. Dwi'n cyrraedd Caerdydd weithie wedi ymgolli'n llwyr yn y geirie a prin yn cofio'r daith.

A dwi'n siŵr fod ganddo ddim morgais!?

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Dion Davies