Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Yr actores Mari Beard

  • Cyhoeddwyd
Mari BeardFfynhonnell y llun, Mari Beard

Yr actores a'r ysgrifenwraig Mari Beard sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan .

Yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi S4C a Â鶹ԼÅÄ - fel Tourist Trap - mae Mari yn ddiweddar wedi profi llwyddiant gyda'r gyfres S4C Merched Parchus a ysgrifennodd gyda Hanna Jarman.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio gweld eira am y tro cynta a troi at mam a dweud "mess" yn meddwl/gobeithio bod rhywun yn mynd i fod mewn lot o drwbwl am y llanast gwyn o'dd dros popeth.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Pan o'n i'n 15 o'dd gen i obsesiwn gyda Leonardo DiCaprio. O'dd gen i gymaint o bosters ohono fe o'n i methu gweld y paent ar y wal.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i'n eistedd tu allan i dafarn Nos Da yng Nghaerdydd gyda criw o fy ffrindiau. Ma' dau foi yn dod i eistedd ar ben y bwrdd, roedd rhai o fy ffrindiau yn 'nabod y ddau. Yn hwyrach dwi'n ffeindio fy hun yn eistedd wrth ymyl y ddau ddieithryn a ma' un yn troi ata i a gofyn os o'n i'n gyfarwydd â band ('na i ddim dweud enw y band am resymau amlwg). Nes i ateb "Och, dwi'n casáu nhw," a bwrw 'mlaen i ddweud pam o'n i'n meddwl eu bod nhw yn middle of the road mewn manylder.

Ma'r bwrdd yn mynd yn dawel. Ma'r boi yn dweud "o, wel dyma'r gitarydd" wrth bwynto at ei ffrind. Ges i gymaint o sioc nes i jest eistedd yna - dim ymddiheuro - jyst eistedd yn ddistaw yn edrych yn flin. 'Nath y ddau adael reit handi. Dwi'n meddwl amdano fe bob nos.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Merched Parchus yn dilyn bywydau criw o ffrindiau yng Nghaerdydd. Mae Mari (chwith) a Hanna Jarman (ail o'r dde) wedi ysgrifennu'r gyfres ac hefyd yn actio ynddi

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Heddiw yn gwrando ar bodlediad Shreds gan y Â鶹ԼÅÄ. Podlediad am y Cardiff 5 a gafodd eu cyhuddo o lofruddiaeth Lynette White. Ma' fe'n wych ac oedd y bennod olaf yn hynod o bwerus.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi wrth fy modd yn gwylio sothach ar y teledu, yn enwedig y cannoedd o gyfresi o Real Housewives. New York, New Jersey, Dallas, Beverly Hills... dwi wrth fy modd gyda nhw i gyd!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Aberystwyth gan mai y lle gorau yn y byd yw e.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi wedi cal lot o nosweithiau da yn fy amser ond mae noson yn Glastonbury gyda Hanna Jarman rhyw ddeng mlynedd yn ôl yn dod i fy meddwl. Y ddwy ohonom ni'n crwydro o gwmpas yr ŵyl tan yr oriau mân yn edrych ar yr adloniant hudolus, yr healing a green fields yn yfed seidr cynnes.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Drygionus, sinigaidd, diog.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Bees gan Laline Paull. Mae'r llyfr o safbwynt gwenynen a ma' fe'n hollol wahanol i unrhywbeth dwi erioed wedi darllen o'r blaen.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mam. Dwi'n siarad gyda Mam bron bob dydd, hi yw fy mentor, therapydd a fy arwres - s'pose bod arna' i ddrinc iddi!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ma' gen i grwban o'r enw Poirot.

Ffynhonnell y llun, Poirot
Disgrifiad o’r llun,

David Suchet yn portreadu'r detectif enwog, Hercule Poirot. Ydi crwban Mari hefyd yn gallu datrys troseddau?

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ar ôl ca'l bath andros o hir (dwi'n treulio oriau yn y bath) gyda glasied mawr o Pinot Grigio, byswn i'n ca'l parti mawr gyda fy ffrindiau a fy nheulu gyda digonedd o rym a chicken wings.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ma' hwn yn gwestiwn mor anodd. Ma' 'na gymaint o ganeuon dwi'n caru, ond os oes RHAID meddwl am gân... These Foolish Things wedi'i berfformio gan Ella Fitzgerald.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Korean bbq wings o Hangfire yn Y Barri, platiad mawr o fruit de mare, a brownie fy anti Siân.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Cardi B.

Ffynhonnell y llun, Mari Beard
Disgrifiad o’r llun,

Mari gyda'i mam, y ddarlledwraig Catrin Beard, rai blynyddoedd yn ôl

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Catrin Beard

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw