'Anodd i ddioddefwyr str么c ifanc ymdopi'n ariannol'

Disgrifiad o'r fideo, Str么c yn 38 oed: Stori Trefor Jones
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd Newyddion 9

Mae bron i hanner goroeswyr str么c yng Nghymru sydd o dan 65 oed yn ei gweld hi'n anodd ymdopi'n ariannol.

Yn 么l y Gymdeithas Str么c fe wynebodd 47% o oroeswyr leihad yn eu hincwm a rhagfarn wrth fynd yn 么l i weithio.

Yn 么l un dyn o ardal Porthmadog, wnaeth ddioddef str么c yn 38 oed, mae'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig yn gyffredinol wedi ei theilwra i'r genhedlaeth h欧n.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda'r Gymdeithas Str么c er mwyn gwella cyfleusterau ar gyfer goroeswyr.

Mae 70,000 o bobl yn byw gyda sgil effeithiau str么c yng Nghymru, gyda chwarter y rheiny yn oedran gweithio.

'Doeddwn i ddim yn coelio nhw'

Roedd Trevor Pierce Jones o Dremadog yn 38 oed pan gafodd str么c wrth yrru.

"Ges i gur pen mawr wrth ddod at roundabout a wnaeth coes fi stopio gweithio a braich fi," meddai.

"Wnaeth dwy hogan dd'eud wrtha fi bo' fi wedi cael str么c ond doeddwn i ddim yn coelio nhw. Dwi'n rhy ifanc a rhy ffit.

"Wnes i ddeffro pythefnos wedyn yn Lerpwl wedi bod mewn coma."

Ffynhonnell y llun, Trevor Pierce Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae Trevor Pierce Jones wedi colli saith st么n ers ei gyfnod gyda'r fyddin

Yn 么l Trevor mae "pob dim wedi newid" ers iddo ddioddef str么c.

"Fedrai'm iwsio braich chwith fi o gwbl - mae o jest yn hongian a tydy coes fi ddim yn 100%. Dwi'n cerdded efo ffon.

"Dwi 'di colli fitness fi gyd. Dwi 'di colli tua saith st么n."

Chwilio am waith

Treuliodd Trevor wyth mlynedd yn y fyddin ac wedi hynny bu'n gweithio mewn tafarndai a siopau, ond ers dioddef str么c mae wedi gorfod rhoi'r gorau iddi.

"Dwi'm yn cael dim [cefnogaeth]. Dwi'n cael help gan dad ond mae bob dim 'di gorffen a rhaid i mi dalu amdano ond sgenai'm pres i 'neud hynny.

"Dwi'n edrych am waith. Doeddwn i ddim yn barod [o'r blaen] ond dwi yn r诺an. Dwi'm eisiau eistedd yn y t欧 trwy'r dydd.

"Dwi'm yn meddwl bod lot allan yna yn dangos fod pobl ifanc yn cael str么cs. Mae lot yn meddwl mai pobl hen 'di o, ond mae'n effeithio pawb."

Ddydd Mawrth bu galw gan deulu o Aberpennar, y Gymdeithas Str么c a Phlaid Cymru i'r Llywodraeth osod targedau newydd i'r Gwasanaeth Ambiwlans wrth ymateb i gleifion sy'n cael eu hamau o fod yn cael str么c.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod adolygiad categoreiddio galwadau wedi ei gwblhau, ond bod trafferthion ag argaeledd ambiwlansys yn gallu arwain at oedi i gleifion.