Â鶹ԼÅÄ

Teulu 'lwcus' yn galw am osod targed ymateb i strôc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Nia Gore bod ei mam yng nghyfraith wedi bod yn ffodus iawn

Mae angen targedau newydd i'r Gwasanaeth Ambiwlans wrth ymateb i gleifion sy'n cael eu hamau o fod yn cael strôc, yn ôl teulu dioddefwr.

Does dim targedau'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer digwyddiadau meddygol yn y categori oren - fel strôc.

Yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae'r cyflwr yn un sy'n peryglu bywyd, ac mae ffigyrau gan Blaid Cymru'n awgrymu bod dros 4,000 o bobl wedi gorfod aros dros awr am gymorth yn nhri mis cyntaf eleni.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod adolygiad o gategoreiddio galwadau wedi ei gwblhau, ond bod trafferthion ag argaeledd ambiwlansys yn gallu arwain at oedi i gleifion.

'Dim hast ar neb'

Cafodd Mair Gore strôc yn ei chartref yn Aberpennar ym mis Mawrth, a bu'n rhaid aros sawl awr am ambiwlans.

Dywedodd ei merch yng nghyfraith, Nia Gore, bod ei theulu yn lwcus, ond y gallai fod yn "stori hollol wahanol".

"Roedd y teulu 'di pigo lan bod hi'n go wael, wedi cael strôc fawr, doedd hi ddim yn gallu siarad, ddim yn gallu symud, dim byd."

"I w'bod bod rhaid aros am amser hir am ambiwlans, roedd yn really 'neud nhw'n grac.

Ffynhonnell y llun, Nia Gore
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Mair Gore yn dweud bod rhaid iddi aros am rai oriau cyn cael triniaeth

"Roedd pawb ofn bod nhw'n mynd i'w cholli hi, o'dd panics mawr achos gallai fod yn life or death situation... ond doedd dim hast ar neb."

Mae Mair bellach yn gwella o effeithiau'r cyflwr, ond dywedodd Nia: "Ni'n deulu lwcus iawn, o'dd fy mam yng nghyfraith yn lwcus iawn, gallai 'di bod yn stori hollol wahanol.

"Ma' fe yn dychryn chi, achos ma' fe'n digwydd trwy'r amser yn dyw e."

Mae ffigyrau ddaeth i law Plaid Cymru drwy gais rhyddid gwybodaeth yn awgrymu bod dros 4,000 o bobl wedi aros dros awr am gymorth meddygol yn nhri mis cynta'r flwyddyn.

Mae strôc yn cael ei gategoreiddio fel digwyddiad oren - ac mae ffigyrau'n dangos bod amseroedd aros o fewn y categori yma wedi dyblu o fewn y tair blynedd diwethaf.

26 munud ydy'r amser aros am ofal meddygol ar gyfartaledd; gydag enghreifftiau o bobl yn aros llawer iawn hirach hefyd.

Mae'r Gymdeithas Strôc yng Nghymru'n ymgyrchu dros newidiadau i'r categori, yn cynnwys cofnodi'r amser rhwng galw 999 a derbyn triniaeth - yn hytrach na'r amser mae'n cymryd i'r ambiwlans gyrraedd y claf.

'Gwahaniaeth rhwng byw a marw'

Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Helen Mary Jones, hefyd yn galw am newidiadau.

"Mae'n gallu 'neud y gwahaniaeth rhwng byw a marw - hefyd mae'n gallu 'neud y gwahaniaeth rhwng cael triniaeth sy'n sicrhau bod chi'n hollol iach a gallu mynd 'nôl i'r gwaith... neu eich bod chi'n anabl am weddill eich oes.

"Dyw hynny ddim yn sefyllfa ddigon da ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Mary Jones yn dweud nad yw'r sefyllfa yn ddigon da ar hyn o bryd

Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fe gafodd adolygiad o'r categoreiddio ei gwblhau ym mis Tachwedd y llynedd.

Daeth yr adolygiad yma, a rhai blaenorol, i'r canlyniad bod y categoreiddio ar gyfer strôc yn addas.

Mae'r gwasanaeth yn cydnabod bod rhai cleifion yn aros "rhy hir" am ofal, a bod hynny "yn bennaf" oherwydd problemau gydag argaeledd ambiwlansys.

Ond maen nhw'n dweud eu bod yn parhau i weithio a gwneud gwelliannau er mwyn i glaf gael gofal cyn gynted â phosib.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod swyddogion yn "parhau i weithio gyda phartneriaid... i ddeall sut y gallwn ni wneud gwelliannau i gleifion sy'n cael strôc".