'Peryg i Brexit caled neu un heb gytundeb chwalu'r DU'

Bydd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog Brexit, yn dweud ddydd Llun y bydd gadael yr UE mewn modd afreolus, di-drefn yn fygythiad gwirioneddol i'r Deyrnas Unedig.

Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy, bydd y Gweinidog Brexit yn rhybuddio nad oes amheuaeth y gallai Brexit caled neu un heb gytundeb chwalu'r Undeb.

Bydd yn galw ar Lywodraeth y DU i gydnabod yr angen am newid radical yn nhrefniadau cyfansoddiadol y DU er mwyn ei gwneud yn addas ar gyfer y 21ain ganrif.

Bydd yn dadlau bod yn rhaid newid y cyfansoddiad os yw'r DU yn gadael Ewrop neu beidio ac mae'n argyhoeddedig y byddai Cymru yn elwa petai yna newidiadau yn digwydd.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gredu yn y DU ond bod rhaid newid y cyfansoddiad

Bydd Mr Miles yn dweud ei fod yn bryderus mai blaenoriaeth y Prif Weinidog, Boris Johnson, yw gadael heb gytundeb ac ychwanega petai hynny yn digwydd bod angen ailasesu safle Cymru yn y DU newydd.

"Rydym yn credu mai cymdeithas wirfoddol o genhedloedd yw'r DU," meddai, "ac felly mae'n dilyn ein bod hefyd yn cydnabod bod rhai cydrannau o'r Deyrnas Unedig efallai yn dewis peidio â bod yn rhan ohoni bellach.

"A phetai hynny'n digwydd, byddai'n rhaid i unrhyw lywodraeth synhwyrol ailasesu safle Cymru yn y DU newydd."

'Am i'r Undeb weithio'

Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn pwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gredu yn yr Undeb gan ddweud: "Mewn byd sy'n globaleiddio fwy a mwy, nid ydym yn credu ei fod yn synhwyrol i roi'r gorau i wneud i'r berthynas rydym wedi'i hetifeddu gyda'n cymdogion agosaf weithio er lles pob un ohonom - rydym yn credu bod rhannu'r peryglon a'r gwobrau rhwng y pedair cenedl er lles i'n holl ddinasyddion.

"Rydym am i'r Undeb weithio, a gweithio'n well.

"Ein blaenoriaeth yw aros a diwygio - o fewn undeb y Deyrnas Unedig ac o fewn yr Undeb Ewropeaidd - i wneud y defnydd gorau o'r pwerau datganoledig sydd gennym, i bwyso o blaid rhai newydd, ond y cyfan o fewn y Deyrnas Unedig sy'n parhau i gynnig i Gymru y manteision rydym yn eu derbyn ar hyn o bryd drwy fod yn aelod ohoni.

"Mae hyn yn gofyn am raglen helaeth o newid."

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth miloedd orymdeithio dros annibyniaeth yng Nghaernarfon ddiwedd Gorffennaf

Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru y ddogfen sef ymateb Llywodraeth Cymru i oblygiadau Brexit ar y setliad datganoli, i'r cysylltiadau rhwng llywodraethau, ac i gyfansoddiad y DU.

Galwodd y Gweinidogion am:

  • Cyngor Gweinidogion y DU, ac am well trefn o ddatrys anghydfod;
  • Ysgrifenyddiaeth annibynnol, efallai wedi'i seilio ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli gyda Chyngor Prydain ac Iwerddon;
  • Confensiwn cyfansoddiad y DU, i roi sylw i'r cwestiwn sut mae angen i gyfansoddiad y DU newid.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn dweud ar faes y brifwyl bod yn rhaid i agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli newid.

'Angen parch at ddatganoli'

Yn ôl Mr Miles: "Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos ei bod yn hynod ansicr o hyd ynghylch datganoli. Neu yn waeth, agwedd os byddwn ni'n bihafio, bydd Llywodraeth y DU oherwydd ei mawrfrydigrwydd, yn caniatáu ychydig o bwerau cyfyngedig o hunan lywodraeth i ni. Rhyw fath o ddatganoli 'cymerwch beth sy'n cael ei gynnig'.

"Rhaid i hynny newid. Rhaid ymdrin â datganoli ar sail parch at ein gilydd, cydraddoldeb parch a chyfranogi rhwng yr amrywiol lywodraethau, yn hytrach na'r datganoli 'gras a ffafr' sydd gennym ar hyn o bryd.

"Os yw'r Undeb am oroesi ac os mai'r Undeb fydd yn parhau y dewis gorau er lles Cymru - nawr yw'r amser i egwyddorion cydraddoldeb rhwng y cenhedloedd a chyfrifolaeth gael eu hymgorffori'n gwbl ganolog yn ein cyfansoddiad."

Mae Plaid Cymru wedi galw am refferendwm ar annibyniaeth pe bai'r DU yn gadael yr UE heb ail refferendwm.

Fe wnaeth gorymdeithiau gan YesCymru ddenu torfeydd mawr yn ddiweddar, yng Nghaerdydd ym mis Mai a Chaernarfon yng Ngorffennaf.