Â鶹ԼÅÄ

'Cynlluniau Brexit y DU yn cryfhau setliad datganoli'

  • Cyhoeddwyd
David LidingtonFfynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Lidington yn honni y bydd y Mesur Ymadael yn "cryfhau datganoli" ac yn amddiffyn marchnad gyffredin y DU

Mae cynlluniau Brexit llywodraeth y DU ar gyfer datganoli yn canolbwyntio ar amddiffyn "marchnad gyffredin hanfodol y DU", yn ôl un o weinidogion llywodraeth San Steffan.

Mewn araith yn Sir y Fflint ddydd Llun dywedodd David Lidington, gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet, fod y cynlluniau nid yn unig yn "parchu'r setliadau datganoli ond yn eu cryfhau a'u gwella".

Ychwanegodd Mr Lidington bod San Steffan yn cynnig "newidiadau sylweddol" er mwyn ceisio cyrraedd cytundeb.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud ei fod eisiau gweld pethau'n mynd y tu hwnt i "eiriau cynnes".

Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn mynd yn ddigon pell.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford ddydd Iau fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yn y trafodaethau

Ar ôl cyfarfod o weinidogion y DU, Cymru a'r Alban yn Llundain ddydd Iau, dywedodd y tair llywodraeth fod cynnydd wedi ei wneud ond bod angen trafodaethau pellach i geisio dod i gytundeb.

Mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi dweud bod y Mesur Ymadael yn gyfystyr â "bachu grym" oddi wrth y Cynulliad a Holyrood.

O dan y cynlluniau, fe fyddai pwerau mewn meysydd datganoledig fel ffermio yn dychwelyd o Frwsel i San Steffan yn hytrach na Chaerdydd, Caeredin a Belfast.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn bwriadu newid y bil ac wedi cynnig y bydd y mwyafrif helaeth o'r pwerau sy'n dychwelyd o'r UE bellach yn mynd i'r gweinyddiaethau datganoledig gyda'r gweddill yn mynd i San Steffan.

'Datganoli eang'

Yn yr araith ddiweddaraf mewn cyfres a elwir 'The road to Brexit' gan Downing Street, dywedodd David Lidington bod y cynnig newydd yn cynrychioli "cam sylweddol ymlaen yn y trafodaethau".

Wrth siarad yn safle cwmni Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, dywedodd: "Mae'r newid yn cynnig yr hyn yr ydym bob amser wedi'i ddweud oedd ein bwriad: datganoli eang nid yn unig i ffwrdd o Frwsel, ond o San Steffan hefyd.

"Mae'r cynnig hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad i ymadawiad llyfn a threfnus, mewn dull sydd nid yn unig yn parchu'r setliadau datganoli, ond yn eu cryfhau a'u gwella.

"Ond ar y llaw arall, mae rhai pwerau wedi'u cysylltu'n glir â'r DU gyfan a bydd angen iddynt barhau i weithredu yn yr un modd ar draws y pedair gwlad er mwyn diogelu defnyddwyr a busnesau sy'n prynu a gwerthu ledled y DU."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones yn pwyso am "Brexit meddal" wrth gyfarfod a Michel Barnier o'r UE

Ychwanegodd fod yn rhaid amddiffyn "y farchnad gyffredin" wedi Brexit.

"Trwy gadw fframweithiau'r DU, rydym yn cadw ein gallu nid yn unig i weithredu er budd cenedlaethol ond gwneud hynny gyda phwrpas unedig sy'n rhoi blaenoriaeth i ffyniant a diogelwch ein holl ddinasyddion," meddai.

"Ac felly wrth i ni edrych tuag at y dyfodol, dyma'r cydbwysedd y gallwn, wrth weithio gyda'n gilydd, ei daro."

Gwrthod annibyniaeth

Fe wnaeth Mr Lidington wrthod y syniad o annibyniaeth i genhedloedd y DU, gan ddweud "byddai canlyniad o'r fath yn golygu bod pob un o'n pedair gwlad yn wannach".

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn pwyso ar i'r DU aros yn rhan o Undeb Tollau'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit gyda phleidlais ar y mater wedi ei drefnu yn y Cynulliad ddydd Mercher.

Mae'r bleidlais yn ymateb i'r ffaith fod Llafur am i'r DU daro cytundeb undeb tollau newydd gyda'r UE.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud bod y Mesur Ymadael yn annemocrataidd

Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae gwahaniaeth pwysig rhwng 'yr undeb tollau' ac 'undeb tollau'."

Ychwanegodd: "Mae Plaid Cymru yn ffafrio'r cyntaf gan y byddai'n cynnig yr amddiffyniad mwyaf posibl i economi Cymru. Fe fyddai cytundeb undebau tollau newydd yn ein gweld ni ar ein colled ar gyfer cytundebau masnach hanfodol.

"Dyna pam yr ydym yn ailadrodd ein galwad ar i Gymru ddangos undod o blaid parhau yn undeb tollau presennol yr Undeb Ewropeaidd."