Disgwyl cwblhau cynllun bysiau Caerdydd erbyn 2023

Ffynhonnell y llun, HolderMatthias/Rightacres

Mae cynlluniau ar gyfer gorsaf fysiau newydd yng Nghaerdydd bellach wedi cael eu cymeradwyo gan bob un o ddatblygwyr y safle - ond nid oes disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau tan 2023.

Bydd yr orsaf, sy'n cynnwys 14 safle unigol i fysiau, yn cael ei hadeiladu drws nesaf i gartref newydd y Â鶹ԼÅÄ yn y Sgwâr Canolog.

Mae disgwyl cwblhau'r gwaith adeiladu erbyn diwedd 2022 ond ni fydd ar agor i'r cyhoedd tan Pasg 2023.

Mae Llywodraeth Cymru, Legal & General a Rightacres Property wedi cadarnhau bod y cynlluniau wedi eu cymeradwyo a'u bod yn bwriadu dechrau adeiladu'r orsaf newydd ym mis Tachwedd.

Mae'r datblygiad, sydd hefyd yn cynnwys fflatiau, swyddfeydd ac unedau manwerthu, yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Rightacres a Network Rail.

Y bwriad gwreiddiol oedd agor yr orsaf newydd yn 2017 ond oherwydd oedi am wahanol resymau roedd rhaid gohirio'r cynllun.

Dywedodd y cwmni datblygu, Rightacres y bydd gweithwyr yn dechrau symud carthffos ar y safle o fewn yr wyth wythnos nesaf ac wedi hynny bydda nhw'n rhydd i ddechrau'r gwaith adeiladu.

'Carreg filltir bwysig'

Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan Gyngor Caerdydd 'nôl ym mis Tachwedd.

Dywedodd yr AC lleol, Jenny Rathbone bod hyn yn "garreg filltir bwysig" gan fod angen gorsaf bysiau newydd yn y brifddinas ers tua degawd.

Ffynhonnell y llun, Nancy Cavill

Disgrifiad o'r llun, Mae Jenny Rathbone (chwith) yn credu bod angen datblygu system drafnidiaeth Caerdydd "ar frys"

Dywedodd prif weithredwr cwmni Rightacres, Paul McCarthy bod "datgloi'r datblygiad yma wedi bod yn broses cymhleth iawn".

Ychwanegodd Ms Rathbone ei bod hi "wrth ei bodd i weld bod y gwaith ar fin dechrau" gan fod y ddinas angen system drafnidiaeth gyhoeddus fodern "ar frys".

Sut mae'r cynllun yn cael ei ariannu?

  • £15m gan Lywodraeth Cymru er mwyn prynu'r tir yn ogystal â £15m ychwanegol i helpu gyda'r gwaith datblygu;
  • Mae partneriaid y cynllun wedi addo cyfrannu £40m;
  • Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyfrannu £15m;
  • Bydd rhywfaint o arian o'r cynllun £58m i ddatblygu gorsaf drenau Caerdydd Canolog a gorsaf newydd yn Abertawe hefyd ar gael, yn ôl y llywodraeth.

Yn ôl AC Gogledd Caerdydd, Julie Morgan, mae safle'r orsaf newydd yn hollbwysig ac yn "ran allweddol o'r isadeiledd a'r rhwydwaith drafnidiaeth" sydd wedi bod ar goll o'r ddinas.

"Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am ddiffyg gorsaf bysiau yng nghanol y ddinas a bod hynny yn arbennig o anodd i bobl sydd â phroblemau hygyrchedd," meddai.

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates y byddai'r orsaf newydd yn "cydweithio'n arbennig o dda gyda gorsaf drenau brysuraf Cymru wrth wella profiadau teithwyr yn y brif ddinas."

Mae safle'r orsaf eisoes wedi cael ei glirio fel bod modd dechrau ar y gwaith adeiladu.