Diwrnod y Coroni yn Eisteddfod Sir Conwy

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Y Coroni fydd prif seremoni'r Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn Llanrwst ddydd Llun.

Dyma fydd defod gyntaf yr Archdderwydd newydd, y Prifardd Myrddin ap Dafydd, ar lwyfan pafiliwn y brifwyl.

Mae 29 wedi ymgeisio am y goron, sy'n cael ei rhoi am ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd a heb fod dros 250 i linellau ar y pwnc Cilfachau.

Y gymdeithas dai, Grŵp Cynefin yw noddwyr coron eleni ac fe fydd yr enillydd hefyd yn derbyn £750 sy'n rhodd gan John Arthur a Margaret Glyn Jones a'r teulu, Llanrwst.

Manon Rhys, Ceri Wyn Jones a Cen Williams yw'r beirniaid.

Cafodd y goron ei dylunio a'i chreu gan y gemydd cyfoes, Angela Evans o Gaernarfon.

Hefyd fore Llun fe fydd yna seremoni i dderbyn aelodau newydd i'r Orsedd, gan gynnwys prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd yng Nghaerdydd.

Yn ogystal bydd Jonathan Davies a Ken Owens o'r byd rygbi a'r darlledwr a'r cyflwynydd, Aled Samuel, yn derbyn y wisg las er anrhydedd.