Â鶹ԼÅÄ

Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi urddau'r Orsedd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Ken Owens ei bod yn "anrhydedd enfawr" cael ei dderbyn i ymuno â'r Orsedd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd drwy anrhydedd yn yr ŵyl yn Sir Conwy eleni.

Ymysg yr enwau cyfarwydd eleni mae'r comedïwr Tudur Owen, y delynores Catrin Finch, a'r chwaraewyr rygbi Ken Owens a Jonathan Davies.

Mae'r anrhydeddau'n cael eu cyflwyno'n flynyddol, ac yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru a'r Gymraeg.

Hefyd ar y rhestr eleni mae'r ddeuawd John ac Alun, y cerddor Geraint Løvgreen, y cyflwynydd Aled Samuel, a chyn-brif weithredwr y Steddfod, Elfed Roberts.

Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod:

Beth yw Gorsedd y Beirdd?

Yn ôl y drefn, mae'r rheiny sy'n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd - Y Wisg Las am eu gwasanaeth i'r genedl.

Mae'r Orsedd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd am eu cyfraniad i'r celfyddydau.

Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael eu hurddo i'r Wisg Wen.