Darpar Brif Weinidog y DU i wynebu ei gilydd yng Nghaerdydd

Bydd Boris Johnson a Jeremy Hunt yn wynebu aelodau o'r Blaid Geidwadol yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer yr hysting diweddaraf ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal wrth i aelodau ddechrau derbyn eu papur pleidleisio.

Mae disgwyl i enillydd yr ornest ddod yn Brif Weinidog nesaf y DU yn lle Theresa May fydd yn camu i lawr.

Dyma'r unig ornest i gael ei chynnal yng Nghymru. Bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi ar 23 Gorffennaf.

Mae'r cyn-Ysgrifennydd Tramor rhwng 2016-18, Boris Johnson - sydd o blaid gadael yr UE - yn wynebu'r cyn-Ysgrifennydd Iechyd, a'r Ysgrifennydd Tramor presennol, Jeremy Hunt.

Bydd y ddau yn cymryd tro i wynebu cwestiynau gan aelodau o'r blaid yn yr hysting, fydd yn cael ei gynnal nos Sadwrn.

Dyma fydd yr 11eg hysting, a'r ail i gael ei gynnal ar yr un diwrnod. Mae pump arall wedi'u trefnu.