Â鶹ԼÅÄ

Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn cefnogi Johnson

  • Cyhoeddwyd
Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Davies wedi bod yn arweinydd ar y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ers 2018

Gall Boris Johnson "gyflawni dros Gymru" oherwydd ei amser fel Maer Llundain, yn ôl arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad.

Mae Paul Davies yn cefnogi'r cyn-ysgrifennydd tramor i olynu Theresa May fel Prif Weinidog.

Dywedodd Mr Davies bod Mr Johnson, wnaeth ymgeisio am sedd yng Nghymru yn y gorffennol, yn "deall datganoli".

Ef fyddai'r ymgeisydd gorau i "gadw Jeremy Corbyn allan o Downing Street", yn ôl Mr Davies.

Bydd arweinydd nesaf y Ceidwadwyr - un ai Mr Johnson neu Jeremy Hunt - yn cael ei ddewis gan tua 160,000 o aelodau'r blaid.

Fe fydd y ddau ymgeisydd yn cymryd rhan mewn 15 dadl yn erbyn ei gilydd ar draws y DU, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 23 Gorffennaf.

Disgrifiad o’r llun,

Boris Johnson yw'r ffefryn i fod yn arweinydd nesaf y Ceidwadwyr

"Rydw i'n meddwl ei fod yn deall datganoli am ei fod wedi rhedeg Llundain am wyth mlynedd," meddai Mr Davies.

Pan ofynnwyd iddo dair gwaith beth oedd gan Mr Johnson wedi'i gynllunio ar gyfer Cymru, ni wnaeth Mr Davies ateb.

Mynnodd na ddylai trafodaethau preifat rhwng y ddau gael eu gwneud yn gyhoeddus, ond dywedodd eu bod wedi cael "trafodaeth gadarnhaol iawn am isadeiledd yma yng Nghymru a sut all e gefnogi Cymru wrth i ni fynd ymlaen".

Fe wnaeth Mr Johnson - Maer Llundain rhwng 2008 a 2016 - ymgeisio dros y Ceidwadwyr yn Ne Clwyd yn 1997, ble ddaeth yn ail y tu ôl i'r Blaid Lafur.